Gall dysgu ychydig am Ffrainc a’i hiaith fod yn hwyl. Yn fwy felly gyda’r llyfr rhyngweithiol yma. Mae Lucie a Thierry yn ffrindiau mawr, ac maent yma i’ch helpu a’ch cyflwyno i rai mannau cyffrous yn Ffrainc, a dysgu rhai geiriau Ffrangeg sylfaenol. Gwrandewch ar glipiau sain, gwyliwch animeiddiadau, a chwarae rhai gemau llawn hwyl cyn canu’r gân ‘Bonjour’ ar ddiwedd y llyfr.
Mae’r adnodd yma wedi ei anelu at ddysgwyr camau cynnydd 2 a 3.
Mae’r e-lyfrau ar gael ar Apple Books yn unig.