ADEILADU RHITHWIR

Dyma adnodd ar gyfer myfyrwyr Adeiladwaith (Lefel 1 a 2) sy’n canolbwyntio ar derminoleg a gwybodaeth ddamcaniaethol sylfaenol am adeiladu tai. Mae’r unedau yn cynnwys 5 tiwtorial animeiddiedig i helpu dysgwyr i weld pa sgiliau crefft sydd eu hangen i adeiladu tŷ. Mae pob uned yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol a chwis.

Mae posib ei ddefnyddio o fewn gwersi ar fwrdd rhyngweithiol neu ei osod fel gwaith annibynnol o adref.

Mae’r adnodd wedi’i ddylunio fel bod modd ei ddefnyddio ar gyfrifiadur / gliniadur / iPads neu unrhyw adnodd digidol arall.

Mae’r adnodd yma wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.