Mae gan y tîm datblygu brofiad helaeth yn cynhyrchu adnoddau e-ddysgu mewn amrywiaeth o feysydd ar gyfer ystod o oedrannau gwahanol. Mae’r tîm yn cyd-weithio ag awduron/arbenigwyr allanol er mwyn cynhyrchu adnoddau o’r safon uchaf. Maent â phrofiadau ac arbenigeddau cyfoethog fel tîm i ymgymryd â chyflawni prosiectau amrywiol i gleientiaid lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol.
Dyma rai o wasanaethau y tîm datblygu:
- Gwaith ffilmio / cynhyrchu fideo (ac yn berchen offer a meddalwedd proffesiynol ei hunain)
- Gwaith recordio / golygu sain (ac yn berchen offer a meddalwedd proffesiynol ei hunain)
- Arlunwaith gwreiddiol
- Animeiddiadau gwreiddiol
- Dylunio a datblygu gwefannau rhyngweithiol statig a deinamig
- Creu aps ac e-Lyfrau rhyngweithiol aml-blatfform.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â : ymholiadau@gwasanaethdysgudigidol.cymru
Portffolio
Dyma enghreifftiau o rai o’r prosiectau rydym wedi ei ddatblygu i nifer o gleientiaid. Ceir amrywiaeth o adnoddau (Aps, e-lyfrau, adnoddau HTML5) ar gyfer ystod eang o oedrannau.
Mae’r gwaith i’w weld ar iTunes ac ar wefannau HWB, CBAC a GwE. Mae hefyd i’w weld ar wefan adnoddau rheolaethol ac addysgol Awdurdod Addysg Gwynedd a Môn.