GWEFANAU I GLEIENTIAID ALLANOL

Mae gennym brofiad helaeth o ddatblygu a dylunio gwefannau unigryw i ysgolion a chleientiaid allanol ar draws Cymru.

Rydym yn adnabod pwysigrwydd presenoldeb ar y we. Mae’r we yn un o lwyfannau cyfathrebu mwyaf, ac yn dal i ddatblygu. Mae presenoldeb ar y we yn golygu cyrraedd cynulleidfa eang i ddangos eich gwaith, rhannu gwybodaeth bwysig a hynny 24/7…

Gallwn ddatblygu gwefan i ddiwallu eich anghenion, boed hynny’n creu gwefan gyffredin, neu’n system benodol sy’n cadw data, neu hudnoed yn ap/gêm. Rydym yn meithrin yr holl sgiliau ac adnoddau sydd ei angen i greu gwefan ddeinamig, fodern yn fewnol, sy’n sicrhau pris teg i’n cwsmeriaid.

Mae pob un o’n safleoedd yn ymatebol (responsive) h.y. yn addasu i’r ddyfais sy’n cael ei ddefnyddio fel ei fod yn edrych yn wych ar gyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a ffonau symudol yn y broses.

Rydym yn gwneud defnydd llawn o dechnolegau diweddar gan gynnwys HTML5 a javascript i ddarparu’r profiad gorau posibl i ddefnyddwyr.

Gallwn ddylunio gwefan sydd yn rhwydd i chi ddiweddaru’r cynnwys eich hunain. Neu mi allwn ni ei ddiweddaru ar eich rhan!

Cwblhewch y ffurflen isod i drafod eich opsiynau

Ein Systemau

SYSTEM
YMWELWYR

GWEFAN
YSGOL

SGRINIAU
ARDDANGOS

CDU
AR-LEIN

HUNAN ADOLYGIAD
LLYWODRAETHWYR YSGOL