Pwy ydan ni?
Mae Gwasanaeth Dysgu Digidol yn cefnogi dysgu/addysgu digidol er mwyn sicrhau’r cyfle gorau i ddisgyblion.
Mae’r tîm yn wreiddiol o Gwmni CYNNAL gyda phrofiad helaeth o gynhyrchu amrywiaeth o adnoddau a systemau o’r safon uchaf mewn dull cost effeithiol.
Ein bwriad
Ein bwriad yw cynnig y ddarpariaeth ddigidol orau i gefnogi ein dysgwyr a’n hathrawon i feithrin ystod o sgiliau i ddefnyddio technoleg yn hyderus, creadigol ac yn feirniadol drwy:
- gefnogi a hyfforddi ar y defnydd o systemau rheoli gwybodaeth ysgolion
- dylunio a datblygu adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol
- datblygu systemau i gefnogi addysgu ar-lein
- trefnu cyrsiau hyfforddi i uwchsgilio athrawon i ddefnyddio technoleg yn effeithiol
- cefnogi a hwyluso y defnydd o Lwyfannau Dysgu
- cydweithio gydag ysgolion i adnabod eu hanghenion ac yna cynnig gwasanaethau cefnogol sy’n diwallu’r anghenion hynny.