Dyma adnodd rhyngweithiol sy’n ymdrin â’r cynnwys a geir yn y ‘Fframwaith Rhifedd Cenedlaethol’. Mae’n cynnwys clipiau ysgrifennu animeiddiedig byr sy’n esbonio sut i fynd i’r afael â chwestiwn a’i ateb. Mae’r clipiau yn cynnwys enghraifft weledol o’r sgil mathemategol ynghyd a llais yn esbonio.
Mae’n cynnwys taflenni gwaith gydag amrywiaeth o gwestiynau i brofi dealltwriaeth y dysgwr ar wahanol destunau. Mae posib ateb y cwestiynau ar-lein a chael sgôr neu mae posib lawrlwytho’r daenlen fel PDF a’i argraffu i’w rannu yn y dosbarth. Gellir defnyddio’r adnodd o fewn gwersi neu ei osod fel gwaith annibynnol o adref.
Gellir ei ddefnyddio ar gyfrifiadur / gliniadur / iPad neu unrhyw ddyfais digidol o’r fath.
Addas ar gyfer disgyblion CA2 a CA3.
Mae’r adnodd yma wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.