Wrth gwrs mae hyn yn sefyllfa bryderus iawn gan fod anifeiliaid a
chreaduriaid o bob math yn cael eu niweidio gan blastigion.
I helpu, chwilia am fanylion am ymgyrch glanhau traeth
sy'n digwydd yn dy ardal di.
Am fwy o wybodaeth am sut y medri di helpu, cer i:
https://bit.ly/3fTg2uk.
I wylio fidio yn egluro mwy am beth ydy Etholiad y Senedd, dilyna’r linc https://bbc.in/3g6VtdM.
1
![]() |
Big Pedal - - Sustrans (am fwy o wybodaeth cer i tud 6 ‘Trysorau Cymru’)
![]() |
Diwrnod Atal
|
Diwrnod yw hwn i godi ymwybyddiaeth o wastraff bwyd ar hyd a lled y byd. Mae arbenigwyr yn meddwl fod tua thraean (1/3) o’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu dros y byd yn cael ei wastraffu neu ei golli. Mae Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd yn gobeithio newid y ffordd mae pobl yn defnyddio bwyd sydd dros ben, a chymryd mantais gorau o’r bwyd sydd ar gael.
![]() |
Calan Mai |
![]() |
Diwrnod Côr y Wig (Dawn Chorus Day)I ddarllen am beth ydi côr-y |
-wig clicia ar y linc i Rhifyn 2: https://bit.ly/3vBzfWu. Dyma linc i wefan yr RSPCA lle gelli di wrando ar ganeuon gwahanol adar, a dysgu mwy amdanynt: https://bit.ly/2NoXBBF.
![]() |
Wythnos Di-Sgrîn (Screen Free Week) |
![]() |
Diwrnod Cenedlaethol Beicio i’r Ysgol
|
![]() |
Eid-Ul-FitrGŵyl grefyddol y Mwslemiaid yw Eid-Ul-Fitr. Mae’n dathlu diwedd Ramadan, sef mis o ymprydio (mynd heb fwyd) rhwng gwawrio a machlud. |
![]() |
Diwrnod Gwenyn y Byd (World Bee Day) I ddarllen pob math o bethau am wenyn, dilyna’r linc i Rifyn 3 https://bit.ly/3cmEEtg.
|
![]() |
Diwrnod Rhyngwladol Amrywiaeth Biolegolgan y Cenhedloedd Unedig (UN International Day for Biological Diversity) |
![]() |
Eisteddfod T |
![]() |
Diwrnod Amgylchedd y Byd (World
|
![]() |
Diwrnod Cefnforoedd y Byd (World Oceans Day)Gweler yr inffograffeg isod. |
![]() |
Sul y Tadau |
![]() |
Hirddydd HafI ddarllen am beth sy’n digwydd ar y diwrnod yma dilyna’r linc i Rifyn 15: https://bit.ly/30Ptkiq ac os wyt ti am ddarllen am yr hyn sy’n digwydd ym Mryn Celli Ddu ar Hirddydd Haf dilyna’r linc yma https://bit.ly/3vteixb. |
2
Byddi di angen:
Wyddost ti?Mae traddodiad cryf o wneud cwiltiau yng Nghymru ac mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad arbennig ohonynt yn dyddio nôl i’r ddeunawfed ganrif. Byddai pobl yn defnyddio darnau o hen ffabrig o ddillad a chreu cwiltiau bendigedig, llawer ohonynt yn defnyddio y siâp hecsagon neu’r ‘Clytwaith Chweochrog’. |
![]() |
"Yn yr hecsagon yma, gallwn osod y rhifau o 1 i 19 fel bod swm pob rhes syth mewn unrhyw gyfeiriad (gyda 3, 4 neu 5 rhif) yn dod i gyfanswm o 38 bob tro.” Mae rhai rhifau wedi eu rhoi i mewn i chi er mwyn gwneud pethau yn haws, felly mae angen i chi ddefnyddio pob rhif o 1 i 19 fel bod pob rhes yn adio i wneud 38.
3
Mae 22 Mai yn Ddiwrnod Rhyngwladol Amrywiaeth Biolegol Y Cenhedloedd Unedig (UN International Day for Biological Diversity) ond beth ydi amrywiaeth biolegol neu fioamrywiaeth?
Rydym yn defnyddio’r gair bioamrywiaeth i ddisgrifio’r holl wahanol fathau o fywyd ar y ddaear, yn anifeiliaid ac yn blanhigion. Mae pobl yn dibynnu ar fioamrywiaeth iach er mwyn gallu byw ar y ddaear, dyma sy’n rhoi ocsigen, bwyd, dŵr ffres, pridd ffrwythlon, meddyginiaethau, lloches, a hinsawdd sefydlog i ni.
Yn ôl arbenigwyr mae 3 prif beth yn bygwth bioamrywiaeth:
Bioamrywiaeth yng Nghymru:
Mae gwyddonwyr yn credu bod dros 50,000 o rywogaethau gwahanol ar dir a môr Cymru. Ers talwm byddai posib gweld blaidd, arth, baedd gwyllt a chathod gwyllt ond nid ydynt yn byw yma erbyn hyn. Mae gwyddonwyr hefyd yn poeni fod rhywogaethau eraill yn mynd yn brin, fel y bele (pine marten) y wiwer goch a llawer o anifeiliaid oedd yn arfer bod yn niferus fel draenog, gwiber, gwenyn a dyfrgi. Yn ogystal ag anifeiliaid, mae hyd at 10% o flodau gwyllt Cymru mewn perygl o ddiflannu.
Mae gan Gymru 20 ardal arbennig sy’n gwarchod adar, a 92 o ardaloedd arbennig i warchod rhywogaethau prin a chynefinoedd dan fygythiad. Mae’r rhain yn helpu i gadw bioamrywiaeth Cymru yn iach.
Os wyt ti’n hoffi darllen neu eisiau gwybod am lyfrau addas i dy oedran di yna mae hon yn wefan ardderchog.
Mae Sôn am Lyfra yn wefan lle gelli di weld llyfrau Cymraeg newydd, darllen adolygiadau, dysgu mwy am awduron a darllen y newyddion diweddaraf am lyfrau.
Efallai dy fod wedi ei weld yn dy ysgol di? Dyma beth oedd gan Sôn am Lyfra i'w ddweud am y llyfr:
Stori am gyfeillgarwch, gobaith a phwysigrwydd caredigrwydd. Dyma stori annwyl a theimladwy iawn, sy’n defnyddio peth hiwmor i drafod pwnc sy’n reit ddwys.
Dilyna’r linc yma i fynd i’r wefan: https://www.sonamlyfra.cymru/.
4
'Wel?' Roedd y dyn yn y siwt ddu
yn dal i syllu, ei lygaid yn tanio.
'Fedri di ddim darllen?' meddai a
phwyntio at yr arwydd. 'Beth
mae'n ei ddweud?'
'Cccc..cadwch allan!'
sibrydodd Jo.
'Yn union!Felly cer o'ma.' rhuodd
y dyn.
'Ond...' meddai Jo wedyn.
'Ond beth?' meddai'r dyn, 'Beth
wyt ti'n wneud yma beth
bynnag?'
'Ym... wel, dw i'n chwilio am
rywbeth.' meddai Jo, ei feddwl yn
rasio, yn ceisio meddwl am
esgus
i fod yno. 'Ym... dw i
wedi clywed fod yr hen dŷ yn llawn
ysbrydion - ydy hynny'n wir?'
'Paid â bod yn wirion!' meddai'r
dyn, 'Does ’na ddim ysbrydion
siŵr iawn. Mi fyddi di'n dweud
wrtha’ i nesaf bod ’na dylwyth teg
yma!’ Chwarddodd y dyn yn
annifyr, 'Neu Eira Wen a'r
corachod! Neu'r blaidd hwnnw
oedd am fwyta nain yn y stori!'
meddai gan chwerthin yn uwch.
Yna, rhuodd yn flin 'Dos o'ma
rŵan, cyn i mi gael digon ar dy
storiâu gwirion di!’
Trodd y dyn ei gefn ar Jo a
cherdded yn ôl at y plasty.
Wyddai Jo ddim beth i'w wneud.
Beth am Mali? Penderfynodd Jo
yn sydyn bod rhaid iddo nôl Nain,
byddai hi'n gwybod beth i'w
wneud.
Gyda'i wynt yn ei ddwrn
cyrhaeddodd dŷ Nain, a dweud
yr hanes wrthi. Yna brysiodd y
ddau yn ôl drwy'r coed at yr hen
blasty. Erbyn hynny roedd yr haul
bron â machlud a chysgodion y
coed yn creu siapiau tywyll ym
mhob man. Aeth ias i lawr cefn
Jo, ni fedrai feddwl am yr hen
blasty fel gwesty moethus,
gwyddai mai byd natur oedd wir
berchen y lle bellach.
Roedd car y dyn siwt ddu yn dal
yno o flaen y ffens, ac
roedd drws
y plasty ar agor.
'Mae'n rhaid ei fod tu mewn yn
rhywle.' sibrydodd Jo, 'Ond lle mae Mali?'
'Tyrd rhaid i ni fynd i chwilio.'
meddai Nain yn benderfynol.
'Fedrwn ni ddim gadael Mali i
mewn yna ar ei phen ei hun.'
Sleifiodd y ddau i mewn trwy'r
drws. O'r ystafell ar y dde gallai'r
ddau glywed llais y dyn yn siarad
ar y ffôn. Yn sydyn daeth sgrech
uchel o'r atig. 'Whwwwsh...'
Plymiodd siâp gwyn o'r llofft a
hedfan trwy'r drws lle'r oedd y
dyn yn sefyll. Tylluan! Rhoddodd
yr aderyn un sgrech uchel nes
bloeddiodd y dyn mewn ofn.
Rhuthrodd am y drws a'r dylluan
ar ei ôl, ei chrafangau allan. Yn y
drws roedd siâp arall wedi
ymddangos, siâp merch mewn
clogyn coch.
'Nain!' galwodd y siâp arall.
Arhosodd y dyn am funud, ei
lygaid fel soseri.
'NAAA!' gwaeddodd y dyn gan
ruthro heibio'r ferch, 'NAAA!'
Rhedodd y dyn am ei gar a
sgrialodd y car trwy'r
coed ac am
y ffordd fawr, gyda phridd yn tasgu i bob man. Unwaith eto,
dychwelodd tawelwch dros y goedwig.
'Mali!' galwodd Jo, 'Wyt ti'n iawn?'
'Ydw!' meddai, 'Dyna wên fawr
sydd ganddo' chi Nain!'
Chwarddodd y tri.
Yn y papur newydd yr wythnos
wedyn roedd pennawd yn
dweud:
Darllenodd Nain y stori’n uchel,
'Na!' cytunodd Nain gan chwerthin, 'Neb ond y moch daear a'r dylluan, diolch byth!'
Weithiau mae pobl yn anfodlon ynglŷn â rheolau neu ddigwyddiadau arbennig. Efallai bydd protest yn cael ei threfnu i ddangos teimladau dros neu yn erbyn rhywbeth. Gall protestiadau fod yn ddigwyddiadau enfawr, gyda miloedd o bobl yn casglu. Dro arall efallai mai ychydig iawn o bobl fydd yn dod at ei gilydd ddatgan eu barn. Mae rhai pobl yn ofni fod gwleidyddion yn Llundain yn ceisio cyfyngu* ar hawliau pobl i brotestio. Ond mae eraill yn dweud y dylai deddfau gael eu pasio i roi stop ar brotestiadau mawr. Beth ydy dy farn di? Dyma ddwy farn wahanol:
5
Rydym yn rhannu ein cartrefi a gerddi gyda llawer o greaduriaid bach diddorol. Er ein bod yn edrych ar rai pryfaid neu drychfilod fel pla, mae ganddyn nhw i gyd le yn ein hecosystem, ac mae'r creaduriaid bach yma yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd ein planed. Dyma rai creaduriaid anhygoel:
Mae 1,690 milltir o lwybrau beicio yng Nghymru ac mae elusen Sustrans yn edrych ar eu hôl. Sustrans sydd hefyd yn gyfrifol am drefnu THE BIG PEDAL, i annog plant i feicio neu gerdded i’r ysgol.
Mae cael rhwydwaith beicio cenedlaethol yn bwysig i wneud Cymru yn lle iach a hapus i fyw, gweithio a chwarae. Cyfres o lwybrau di-draffig a llwybrau beicio a cherdded ar lonydd distaw sy’n cynnig cyfleoedd i deithio o ddydd i ddydd, cael
anturiaethau a chwarae yw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru yn ôl yr elusen. Ar wefan Sustrans mae mapiau a manylion am lwybrau beicio ym mhob cwr o Gymru, felly estyn dy feic, dy helmed, ac i ffwrdd a ti...!
Am fwy o fanylion clicia ar y linc yma: Ein gwaith yng Nghymru - Sustrans.org.uk.
6
Ceffylau'n llwgu
Bryd hynny wrth gwrs doedd dim ceir, felly i deithio o un lle i'r llall byddai pobl yn marchogaeth (teithio ar gefn ceffylau) neu mewn cert yn cael ei dynnu gan geffyl. Oherwydd bod y cnydau'n methu, nid oedd bwyd yn tyfu ar gyfer y ceffylau. Roedd yn rhaid lladd nifer fawr ohonynt ac aeth y ceffyl yn anifail drud iawn.
Cymryd lle'r ceffyl
Oherwydd nad oedd digon o geffylau, roedd yn rhaid meddwl am ddull arall o deithio. Cafodd Almaenwr o'r enw'r Barwn Karl von Drais yr ateb i'r broblem drwy ddyfeisio’r beic cyntaf.
Y BEIC CYNTAF
Pwy ddyfeisiodd y beic cyntaf?
Barwn Karl von Drais.
Pryd oedd hyn? 1817
O beth cafodd ei wneud?
Pren, ac roedd yn pwyso 22kg.
Sut un oedd y beic cyntaf?
Doedd dim pedalau arno, ac roedd yn rhaid gwthio'r beic gyda'r traed.
O ble daw'r gair 'beic'?
‘Daw'r gair o'r gair 'bi-kuklos’, ‘bi’ - (dau) a ‘kuklos’ (‘olwyn’ yn iaith Groeg) sy’n creu ‘bikuklos (‘bicycle’ yn Saesneg a ‘beic’ yn Gymraeg).
7
CYMRU YN YR EUROS
Flwyddyn yn hwyr oherwydd coronafeirws, bydd pencampwriaethau pêl-droed yr Euros 2021 yn cael eu cynnal mewn 12 o wledydd Ewropeaidd gwahanol, gan gychwyn yn Rhufain ar 11eg Mehefin. Bydd y rowndiau cynderfynol a therfynol yn cael eu chwarae yn Wembley, Lloegr gan orffen ar 11eg Gorffennaf. Ar hyn o bryd bydd rhai cefnogwyr yn cael gwylio’r gemau yn fyw, a’r gobaith ydi y bydd cyfyngiadau Covid-19 i wedi dod i ben fel bod Wembley yn cael bod yn llawn o bobl ar gyfer y ffeinal.
GEMAU CYMRU
Bydd y 2 dîm gorau ymhob grŵp, ynghŷd â 4 o’r timau ddaeth yn drydydd yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf. POB LWC CYMRU!
Dweud ychydig o hanes y gwenyn sydd gen ti...
Mae Elin fy chwaer, fy nhad a finnau wedi bod yn cadw gwenyn yma ers tua 8 mlynedd. Un cwch oedd gynnon ni i ddechrau ond erbyn rŵan mae gynnon ni 3 cwch.
Pa fath o offer wyt ti ei angen i edrych ar ôl gwenyn?
Mae llawer yn meddwl bod cadw gwenyn yn beth cymhleth ac anodd a bod angen llawer o offer ond does dim angen llawer o offer mewn gwirionedd - cwch, cyllell finiog i dorri’r cwyr, casgen i gasglu’r mêl, gogor i hidlo’r mêl a photiau i’w gadw.
Beth wyt ti’n ei weld yn ddiddorol am wenyn?
Dw i’n licio’r ffordd maen nhw’n gweithio a chydweithio. Yn yr haf mae cwch gwenyn arferol yn medru cynnwys 60,000 a mwy o wenyn. Mae meddwl am rain i gyd mewn un cwch gwenyn yn anhygoel. Dw i’n licio gweld sut maen nhw’n creu’r crwybr (yn yr hecsagonau bach yn hwn mae’r mêl yn cael ei gadw). Dwi hefyd yn mwynhau cystadlu hefo’r mêl yn sioe Y Ffôr ac wedi cael y wobr gyntaf fwy nag unwaith!
Pam fod gwenyn mor bwysig i’r blaned?
Mae angen gwenyn i beillio blodau a phlanhigion. Mae llawer o’r cnydau yr ydyn ni’n eu bwyta yn dibynnu ar wenyn i’w peillio.
Wyt ti’n cael dy bigo’n aml?
Dw i ‘rioed wedi cael fy mhigo, ond dw i wedi gweld fy nhad yn cael ei bigo fwy nag unwaith ond ei fai o ydi hynny rhan amlaf gan ei fod yn mentro atyn nhw heb siwt gwenynwr.
Bydd dau rifyn o'r Cliciadur yn ymddangos ar Hwb bob tymor. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ddydd Llun 21ain Mehefin. Cofia gysylltu drwy e-bostio cliciadur@cynnal.co.uk - byddwn wrth ein boddau yn clywed dy farn a dy syniadau.
8