Ar y 1af o Ragfyr 2015 newidiodd y gyfraith yng Nghymru mewn perthynas â rhoi organau yn dilyn marwolaeth. Cyn y dyddiad hwnnw roedd angen i bobl Cymru optio i mewn a datgan dymuniad i roi organau.
Cymru oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i newid y drefn. Bellach mae tri dewis:
![]() Cafodd y newid yma ei drafod yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd a bu ymgynghori gyda phobl Cymru. Pwrpas y newid yma yw lleihau y nifer o bobl yng Nghymru sy'n marw oherwydd eu bod yn aros am organ newydd. Yr organau a ddefnyddir amlaf wrth drawsblannu yw aren, calon, iau, ysgyfaint, pancreas a'r coluddyn bach. Mae'r Ddeddf yn nodi trefn gyfreithiol ar gyfer sut y dylid rhoi caniatâd yng Nghymru i roi organau. Mae'r Ddeddf yn creu dau fath newydd o gydsyniad cyfreithiol – sef caniatâd datganedig lle mae person byw yn datgan bwriad a chydsyniad tybiedig sy'n berthnasol i bobl sydd wedi marw. Fel arall mae'n rhaid i berson ddatgan gwrthwynebiad. |
Mae ymchwil wedi dangos bod mwy o organau ar gael lle mae yna system optio allan o'i gymharu â gwledydd lle mae system optio i mewn. Dangosodd un astudiaeth bod cynnydd rhwng 13% a 18% yn y cyfradd rhoi organau. Y mae hyn yn wir am Awstria, Portiwgal, Gwlad Belg a Ffrainc. Un o'r gwledydd mwyaf effeithiol o ran sicrhau rhoddwyr yw Spaen lle mae trefn effeithiol o ran cyd-gysylltu'r angen a'r rhoddwyr. Yng Nghymru rhoddwyd pwyslais ar yr angen i deuluoedd siarad er mwyn sicrhau fod pawb yn gwybod am ddymuniad aelodau'r teulu. Bu ymgyrch hysbysebu. Yn aml gwrthwynebiad gan deuluoedd oedd y prif ffactor oedd yn effeithio ar y cyfraddau rhoi organau felly y gobaith yw y bydd trafod gyda'r teulu yn sicrhau fod barn pawb yn glir ac yn bositif. Mae rhai ffeithiau am drawsblannu yn syndod. Mae tua 400 o bobl yn aros am drawsblaniad yng Nhgymru. Gall un rhoddwr achub gymaint â 9 o fywydau. Mae gan y Deyrnas Unedig un o'r cyfraddau uchaf o deuluoedd sy'n gwrthod caniatâd – bydd hyn yn siŵr o ostwng yng Nghymru yn dilyn y gyfraith newydd. Cyn y newid dim ond 35% o bobl Cymru oedd ar y rhestr rhoddwyr. Nid yw bod yn hen yn golygu nad oes gwerth i organau. Hyd yn oed os y bu gan rywun broblem iechyd gall yr organau achub bywyd. Bydd rhai yn poeni bod rhoi organ yn mynd yn groes i'w crefydd – y gwir amdani yw fod y chwe prif ffydd yng Nghymru yn cefnogi rhoi a thrawsblannu organau (er bod rhai arweinwyr ac unigolion wedi datgan pryder am rai agweddau o'r gyfraith newydd).
Lesley Griffiths, aelod cynulliad Wrecsam fu'n gyfrifol am arwain y Bil drwy'r senedd. Cafodd ei basio gyda mwyafrif cyfforddus gyda chefnogaeth meddygon a gwyddonwyr y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (NHS).
Ym marn Ms Lesley Griffiths: "Mae rhoi organau yn arbed ac yn gwella bywydau. Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad, gyda chefnogaeth y cyhoedd, i gyflwyno system o optio allan o roi organau. Mae gan y teulu rôl allweddol o ran gwneud y penderfyniad terfynol ar yr hyn sy'n digwydd i organau eu perthynas. Mae dymuniadau'r sawl a fu farw yn holl bwysig ac mae mwyafrif helaeth pobl Cymru am weld ystyriaeth yn cael ei rhoi i'w dymuniad."
![]()
Mae'n amlwg i'r newid hwn gael croeso gan y rhan fwyaf o wleidyddion Cymru ac yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, aelod cynulliad De Caerdydd a Phenarth:
![]() Lansio cymrodoriaeth ymchwil er cof am Rhodri Morgan |
Dros y blynyddoedd bu llu o straeon am fywydau yn cael eu hachub, diolch i roi organau. Mae llawer wedi disgrifio hyn fel gweithred o gariad. Mae'r hanesion hyn i'w gweld yn y Gymraeg a'r Saesneg ar y safle www.organdonationwales.org. Dewiswch 'Eich Straeon'. Un gŵr wnaeth ymateb i'r galw am organau yw y canwr enwog a fagwyd yn ardal Porthmadog, sef Rhys Meirion. Yn y flwyddyn 2012 bu farw ei chwaer mewn damwain. Yn ôl Rhys Meirion "Wythnosau cyn i Elen, fy chwaer gael damwain angheuol, roedd hi a Gwenllian, fy nith, wedi trafod rhoi organau. Oherwydd hyn, roedd fy nheulu yn gallu rhoi caniatâd i roi organau Elen, gan ein bod yn gwybod mai dyma oedd hi eisiau. Rydym wedi gallu delio gyda'n colled aruthrol, gan ein bod yn gwybod bod dymuniadau Elen wedi'u gwireddu." Yn ôl Gwenllian ar raglen 'Fi Gwenllian' ar S4C "Un neges dwi isio i bawb gymryd ydy trafod y pwnc o roi organau. Dio'm bwys os nad ydych chi isio, jyst siarad a gwybod dymuniad pawb yn y teulu."
![]()
![]() O ganlyniad sefydlwyd yr elusen Cronfa Elen er mwyn cefnogi pobl sydd angen trawsblaniad organ yng Nghymru ac i gefnogi teuluoedd y rhai sydd wedi rhoi organau. Y gobaith yw y bydd mwy o drafod ar agweddau at roi organau o fewn teuluoedd. Mae'r gronfa'n helpu'n ymarferol mewn sawl ffordd yn cynnwys rhoi arian at offer ac adnoddau meddygol perthnasol, addysg ac hyfforddiant ar gyfer y rhai sy'n delio â chleifion a rhoddwyr ac ymchwil i faterion fel afiechyd arennau. I godi arian cychwynnwyd Her Cylchdaith Cymru ac arweiniwyd y gwaith gan Rhys Meirion gyda chymorth nifer o bobl eraill trwy Gymru.
![]() Trefnwyd taith o gwmpas Cymru drwy'r awyr, ar ddŵr, ar y ffordd a dros fynyddoedd yn ystod y flwyddyn 2015. Roedd y daith yn cychwyn yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ac yna'n mynd mewn cylch o gwmpas Cymru gan orffen yn Llangollen.
![]() Bu eraill yn gwthio gwlâu o gwmpas Treborth, Bangor cyn croesi Pont Menai, mynd ar daith drên o Borthmadog i Blaenau Ffestiniog a beicio o Fangor i Gaernarfon ac o Fodelwyddan i Gaernarfon. Trefnwyd llu o weithgareddau trwy Gymru i godi arian ar hyd y daith. Roedd hyn yn cynnwys cyngerdd agoriadol yn y Rhyl a chyngherddau pellach yn Galeri, Caernarfon, Tynrhyd ger Pontarfynach, Crymych a Caerfyrddin. Codwyd swm sylweddol o arian ond y prif nôd a bwysleisiwyd dro ar ôl tro gan Rhys Meirion ac eraill oedd yr angen i ysgogi 'trafodaeth genedlaethol' am roi organau. |