Gwybodaeth
e-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg - cylchgrawn tymhorol
Croeso i'r rhifyn cyntaf o'r e-gylchgrawn ar gyfer disgyblion 11-14 oed, gyda'r thema gyntaf yn trafod materion Rhoi Organau - yn deillio o eitemau newyddion cyfredol yng Nghymru.
Bwriad yr e-gylchgrawn tymhorol yma fydd i hybu sgiliau a dealltwriaeth o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau gan osod crefydd mewn cyd-destun eang a pherthnasol. Bydd yr erthyglau hyn yn drawsgwricwlaidd ac yn cynnig symbyliad i drafodaeth ehangach yn y dosbarth.
Nod hefyd yw annog dysgwyr i gael eu hysbrydoli, eu cyffroi a'u herio ac yn eu cymhwyso i fyw bywyd adeiladol yn y byd cyfoes.
- Bydd y deunyddiau yn dangos sut y mae credoau a dysgeidiaethau yn dylanwadu ar fywydau pobl o fewn cymunedau yng Nghymru ac yn fyd-eang;
- Bydd y deunyddiau yn defnyddio'r 'dimensiwn Cymreig' fel y man cychwyn yn hytrach na chyfieithu neu addasu'r safbwynt Seisnig/Saesneg.
- Bydd y deunyddiau yn datblygu dysgwyr ymchwilgar ac annibynnol, meithrin dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
- Bydd y deunyddiau yn datblygu amrediad eang o sgiliau darllen ac yn seiliedig ar y fath o sgiliau mae'r profion PISA yn profi.
Fel y gwelwch oddi fewn i'r e-gylchgrawn bydd:
- O leiaf 3 erthygl (gyda delweddau i gyd fynd â'r cynnwys) yn ynglŷn â themâu penodol bob tymor - gall y rhain gyd fynd a themâu cenedlaethol/rhyngwladol neu'n adlewyrchu materion cyfoes sy'n ynglŷn â chrefydd.
- Y 3 erthygl wedi eu gwahaniaethu fel eu bod yn addas i ddarllenwyr o bob gallu ac yn cynnwys gweithgareddau a manylion tasgau estynedig priodol (o fewn y canllawiau athrawon).
- Termiadur/geirfa allweddol lle bydd posib i ddysgwyr ddarganfod ystyr termau penodol.
- Bydd modd clicio / hofran dros eiriau allweddol o fewn erthyglau er mwyn cael diffiniad syml ohono.
- Canllaw athro yn amlygu gweithgareddau yn gysylltiedig â phob erthygl yn cynnig rhestr o dasgau ar ffurf Word/PDF fydd yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at gyflawni’r pedwar diben a chynnwys pob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad ac ymgorffori sgiliau trawsgwricwlaidd a sgiliau cyfrannol.
- Cysylltiadau i gredoau ac arferion (linciau i dudalennau gwe allanol) er mwyn sicrhau bod y darllenwyr yn derbyn gwybodaeth gywir, gyfoes a diduedd am gredoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol.
- Gweithgareddau munud i feddwl a 'podlediadau' eraill gyda manylion tasgau estynedig ar gyfer dysgwyr.
- Calendr o ddathliadau/dyddiadau crefyddol.
Mae modd llywio i'r erthyglau (fydd ar ffurf Word / PDF) o'r tudalen blaen. Yma hefyd bydd blwch chwilio ble all y defnyddiwr ganfod erthyglau o ôl-rifynnau.
Ar gyfer pob rhifyn gall ysgolion gynnig erthyglau neu gynnwys posib i'r dyfodol.
Rhifyn 1
Awduron: Catrin Roberts, Noel Dyer, Huw Dylan
Golygu: Bethan James a Mary Parry
Diolchiadau/cydnabyddiaeth: John Roberts (BBC Radio Cymru - Rhaglen Bwrw Golwg), Cwmni Da
Cynhyrchwyd gan: Cwmni Cynnal, Penrallt, Caernarfon
....Cofiwch edrych allan am yr ail rifyn ym mis Chwefror 2017...