Hawl neu ddim hawl? – Crefydd yn y Gweithle a’r Ysgol
Weithiau gall bod yn aelod o draddodiad crefyddol, a’r hyn mae hynny’n ei olygu, wrthdaro â’r hyn mae rhywun yn cael ei wneud yn lle maen nhw’n gweithio neu yn yr ysgol.
Felly beth yn union yw hawliau pobl sy’n aelodau o wahanol grefyddau? Yn anffodus, yr un fath â nifer o faterion cyfreithiol, tydi’r ateb ddim yn hollol glir bob tro.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn rhywun neu eu trin yn annheg oherwydd eu crefydd.
Gall hyn gynnwys galw enwau a cham-drin crefyddol, gwrthod ceisiadau am swyddi oherwydd crefydd yr ymgeiswyr,
gwrthod gadael i weithwyr ddilyn arferion eu crefydd, diswyddo annheg, atal rhywun rhag cael swydd well oherwydd eu credoau neu wrthod i bobl wisgo eitem gysegredig.

Yn y gweithle mae tri phrif faes lle gall gwahaniaethu ddigwydd: wrth gyflogi, cael amser o’r gwaith ar gyfer dathlu gwyliau crefyddol neu gael amser a lle i weddïo,
ac arferion o ran bwyd a gwisg.
O ran cyflogi gallai gwahaniaethu olygu rhoi neu beidio rhoi swydd i rywun ar sail eu crefydd e.e. peidio ystyried person am swydd mewn ysgol ffydd (faith school)
oherwydd bod crefydd y person yn wahanol i ffydd yr ysgol. Mewn cyfweliad dylai cyflogwr egluro yn union beth yw dyletswyddau’r swydd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw
gamddealltwriaeth. Mae yna rai swyddi lle gall gweithiwr ofyn am beidio gorfod gwneud rhai pethau oherwydd eu crefydd neu gred e.e. trin cig neu alcohol.
Fodd bynnag does dim rhaid i’r cyflogwr ganiatáu eu cais os oes rhesymau busnes da fel y byddai’n tarfu’n ddifrifol ar y busnes neu’n rhoi gormod o waith ychwanegol
ar staff eraill dros wrthod y cais. Honnodd Celestina Mba - gweithiwr gofal Cristnogol iddi gael ei gorfodi i adael ei swydd ar ôl gwrthod gweithio ar ddydd Sul
oherwydd ei ffydd. Collwyd ei hapêl gyfreithiol, a gellir darllen mwy am yr achos yma: https://www.bbc.co.uk/news/uk-england-london-25229807.
O ran cael amser o’r gwaith ar gyfer gwyliau crefyddol, amser i weddïo a lle i weddïo, does dim hawl awtomatig i’r pethau yma.
Eto i gyd rhaid i’r cyflogwr wrando ac ystyried pob cais yn ofalus a rhesymol oherwydd gallai gwrthod y cais heb reswm busnes da
gael ei weld fel gwahaniaethu e.e. mae grŵp o weithwyr Cristnogol yn gofyn i’w cyflogwr am ganiatâd i ddefnyddio ystafell wag yn
eu hamser eu hunain i weddïo. Mae’r cyflogwr yn gwrthod y cais heb roi unrhyw esboniad. Gallai hyn gael ei weld fel gwahaniaethu
yn enwedig gan fod y cwmni yn darparu cyfleusterau eraill i staff gan gynnwys ystafell gemau ac ystafell ymarfer corff.
Mewn achos arall mewn cwmni prosesu data bach yn Ne Cymru mae David yn gofyn am gael gorffen ei waith yn gynnar brynhawn
Gwener yn ystod yr hydref a’r gaeaf fel y gall fod adref cyn machlud haul - un o ofynion ei grefydd sef Iddewiaeth.
Mae’n fodlon gweithio oriau ychwanegol yn ystod yr wythnos yn lle'r amser a gollir. Os yw'r cwmni yn mynnu fod yn rhaid
iddo aros tan yr amser gorffen arferol o 5 o’r gloch byddai’n rhaid iddynt roi rheswm busnes clir.




O ran arferion gwisg os oes gan gyflogwr reolau ynglŷn ag ymddangosiad a beth ddylid ei wisgo, dylai'r rhain fod yn seiliedig ar resymau busnes a dylid eu hegluro i’r staff. Mae yna nifer o resymau pam y gallai cyflogwr fod a rheolau gwisg - cyfleu delwedd y cwmni, sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu adnabod aelodau o staff a rhesymau iechyd a diogelwch. Os oes gan gyflogwr reolau gwisg, dylai fod wedi trafod gyda’i staff a’r Undebau Llafur er mwyn iddynt gael cyfle i gyflwyno syniadau. Dylai’r cyflogwr hefyd ystyried nad yw rhai pobl yn barod i wisgo rhai eitemau o ddillad neu eisiau gwisgo dillad arbennig oherwydd eu crefydd. Mewn cyfweliad ar gyfer swydd gofynnwyd i’r ymgeisydd Tawfiqa os oedd ganddi unrhyw gwestiwn. Gofynnodd hithau am reolau gwisg a dywedwyd wrthi mai gwisg y staff oedd sgert, siaced a blows. Gofynnodd hithau, pe bai’n cael y swydd, a fyddai’n cael gwisgo trowsus yn lle’r sgert oherwydd bod yn rhaid iddi orchuddio’i choesau fel rhan o’i chredoau Mwslimaidd. Cytunodd y cyflogwr am ei fod yn gais rhesymol. Gallai gwrthod ei chais gael ei ystyried yn gwahaniaethu.


Gall crefyddau fod â gofynion o ran pa fwyd a ganiateir ond nid oes rhaid i gyflogwr ddarparu ar eu cyfer na darparu cyfleusterau heblaw man eistedd glân.
Mae rhai crefyddwyr yn ymprydio fel rhan o’u crefydd e.e. Mwslimiaid yn ystod Ramadan ond unwaith eto does dim gorfodaeth ar gyflogwr i wneud unrhyw
ddarpariaeth ar eu cyfer. Fodd bynnag byddai unrhyw gyflogwr cyfrifol yn trafod gyda’u gweithwyr er mwyn osgoi unrhyw sefyllfa allai gael ei weld fel
gwahaniaethu. Roedd Mo Salah a Sadio Mané yn ymprydio yng nghyfnod Ramadan yn 2019 cyn gem derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Roedd y rheolwr yn gefnogol
iawn o’r ddau a dywedodd, “There is no problem with the fast of my players, I respect their religion, they were always wonderful and they offered the
best whether they were fasting or not”.
Mae’r sefyllfa mewn ysgol yn wahanol wrth gwrs ond mae gan ddisgyblion ysgol nifer o hawliau o ran eu crefydd. Llywodraeth Cymru oedd y wlad gyntaf i
ymgorffori Confensiwn Hawliau Plant 2011. Mae Addysg Cymru yn amddiffyn Datganiad 14 Confensiwn Hawliau Plant 2011 h.y. eich hawl i ddilyn eich crefydd eich hun.
Mae ganddynt hawl i siarad am eu credoau crefyddol, gweddïo, darllen eu Llyfrau Sanctaidd a gwahodd eu cyd-ddisgyblion i ymuno â nhw yn y gweithgareddau hyn cyn
belled a bod nhw’n gwneud hynny’n wirfoddol. Hawl arall sydd gan ddisgyblion yw mynegi eu safbwynt crefyddol mewn trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth neu fel rhan
o dasg cyn belled a bod yr hyn maent yn ei ddweud yn berthnasol i’r pwnc dan sylw. Gallant hefyd gymryd rhan mewn clybiau crefyddol a chael defnyddio cyfleusterau
ac adnoddau’r ysgol. Fodd bynnag rhaid i’r clybiau hyn gael eu cychwyn a’u harwain gan ddisgyblion a hefyd gael cefnogaeth yr ysgol. Mae hawl ganddynt hefyd i
wahodd siaradwyr allanol i weithgareddau’r clwb crefyddol ond eto rhaid cael caniatâd yr ysgol. Gall ddisgyblion hefyd weddïo ar eu pennau eu hunain neu mewn
grwpiau yn eu hamser eu hunain cyn belled nad yw’n tarfu mewn unrhyw ffordd ar fywyd yr ysgol. Mae rhai ysgolion yn darparu ‘stafell weddi’ i’w disgyblion.
Efallai mai’r hawl mwyaf dadleuol a’r un sydd wedi cael mwyaf o sylw yn y cyfryngau yw’r un ynglŷn â gwisg grefyddol. Unwaith eto nid oes un ateb penodol
ac mae’n dibynnu ar bolisi gwisg pob ysgol unigol ac ar ba mor hanfodol yw’r gwisgoedd hyn i’r grefydd dan sylw e.e. aelodau o grefydd y Sikh yn cael eu
gwahardd am wisgo’r kara a’r kirpan. Yn y gorffennol gwelwyd gwrthdaro rhwng hawliau crefyddol a rheolau gwisg ysgol/gwisg ymarfer corff ond bellach mae
Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i amddiffyn Confensiwn Hawliau Plant 2011 drwy sicrhau fod ysgolion yn ystyried y datganiadau. Hefyd mae Llywodraeth yn
annog ysgolion wrth gynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd i ddysgu am hawliau dynol, drwy hawliau dynol ac ar gyfer hawliau dynol. Drwy roi crefydd
gwerthoedd a moeseg yn elfen orfodol o’r cwricwlwm newydd, dangosir llywodraeth Cymru eu bod yn parchu hawliau unigolion.