Byddin yr Iachawdwriaeth
Gwell gwneud na dweud!
Actions speak louder than words!
Byddai William a Catherine Booth, sylfaenwyr Byddin yr Iachawdwriaeth yn cytuno 100% â’r geiriau hynny.
Yn Gristnogion brwdfrydig yn Llundain yn yr 1800au teimlodd y ddau bod angen mynd â’r ffydd Gristnogol at bobl yn lle disgwyl i bobl ddod i’r capel.

Roedden nhw hefyd am roi eu ffydd ar waith a rhoi cymorth ymarferol i dlodion y cyfnod trwy ymgyrch o’r enw - ‘soup, soap and salvation’.

Pa gymorth? - bwyd, cyfle i fod yn lân, cyfle i glywed neges y Beibl, lle i gysgu, help i ferched dorri’n rhydd o buteindra, cefnogaeth i ddioddefwyr trais yn y cartref ac ymgyrch dros amodau gweithio gwell, i’r Match-girls er enghraifft.

Byddai ‘down and outs’, pobl oedd yn gaeth i alcohol a morphine, a phuteiniaid, yn cael gofal gan y Booths a’u cyd-weithwyr o dan yr enw The Christian Mission.
Newidiodd yr enw i Fyddin yr Iachawdwriaeth yn 1878.
Roedd aelodau Byddin yr Iachawdwriaeth yn gwisgo gwisg lled filwrol gan fod William Booth yn gweld eu gwaith fel brwydr yn erbyn drygioni.
Fe oedd y ‘General’ (Cadfridog), corfflu oedd yr eglwys leol, Swyddogion oedd y gweinidogion, milwyr oedd yr aelodau a ‘Blood and Fire’ oedd arwyddair yr eglwys (Gwaed Iesu/Tân yr Ysbryd Glân).

Mike Kirby / Salvation Army Motto and Badge
This Photo by Unknown Author is licensed under CC BY-SA 2.0
Yn wahanol i arfer y cyfnod, credai William Booth bod lle cyfartal i ferched yng ngwaith Iesu Grist.

Heddiw
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn gweithio mewn tua 131 o wledydd. Mae’n cadw at gredoau y prif ffrwd Cristnogol, ond dydy’r sacramentau (Cymun/Bedydd) ddim yn rhan o fywyd y Fyddin.
Mae cerddoriaeth yn bwysig yn addoliad y Sul ac ar y stryd – mae bandiau pres Byddin yr Iachawdwriaeth yn aml yn chwarae carolau adeg y Nadolig,……

neu’n rhannu’r papur newyddion WarCry!

Un peth anghyffredin yn adeiladau’r Fyddin yw’r trugareddfa (mainc arbennig yn y neuadd addoli) lle mae pobl yn mynd am weddi neu i wneud proffes.

Mae’r gwaith gychwynnodd William Booth yn para heddiw -
gwaith sydd wedi’i sylfaenu ar ffydd yn Iesu, a’r holl bwynt yw rhoi’r ffydd honno ar waith wrth roi cymorth ymarferol i bobl, waeth pwy ydyn nhw:
• Sefyll i fyny dros bobl fregus
• Ymladd anghyfiawnder
• Ymladd caethwasiaeth fodern
• Helpu’r rhai digartref (trwy unedau Lifehouses), pobl sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol
• Pobl sydd wedi’u dal yn y diwydiant rhyw
• Pobl sy’n wynebu tlodi a dyledion ac angen arweiniad a chymorth
• ………..a llawer mwy.
Os ydych chi am weld Byddin yr Iachawdwriaeth ar waith, gwyliwch y ffilm Faith Into Action wrth glicio ar y linc isod
www.bing.com/videos/SalvationArmy_Faith_into_Action_video
Byddin yr Iachawdwriaeth, Caerfyrddin.
https://www.salvationarmy.org.uk/carmarthen
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi gweithio yn ardal Caerfyrddin ers tua 1885. Daeth y gwaith i ben rhwng 1946 a 1993. Ers 2010, y Capten Neil Duquemin a’i wraig Liz sy’n arwain y gwaith gyda chymorth dau Reolydd, a Cadet ifanc o’r enw Jamie sy’n hyfforddi i fod yn Swyddog (gweinidog).

Capten Neil Duquemin
Yn y Ganolfan yng Nghaerfyrddin mae siop elusen (yn darparu dillad ac angenrheidiau eraill i’r rhai sydd mewn angen / yn gwerthu nwyddau i’r cyhoedd er mwyn codi arian), a siop goffi (yn agored i’r cyhoedd ac yn darparu bwyd i’r digartref ac eraill).

Y drws nesaf i’r siop a’r caffi mae’r ganolfan gymunedol sy’n cynnwys y neuadd addoli a chegin fodern, fawr.

Mae llawer o’r gwaith paratoi prydau wedi stopio dros dro oherwydd Covid-19, ond mae’r gegin yn dal i gynnig pecynnau bwyd a phrydau tecawê am ddim, ac yn gyfle i wahodd pobl am baned a sgwrs un i un.
Mae pobl yn fwy parod i ddod i mewn i sgwrsio dros baned a gofyn am gymorth, neu drafod problemau - dyledion, alcoholiaeth, cyffuriau, digartrefedd neu broblemau personol.
Dyma ddywedodd y Capten Neil wrth i mi ei holi.
Ydy’r problemau yng Nghaerfyrddin yn wahanol i’r problemau mewn rhannau eraill o’r DU?
“Na, mae’r problemau yma yn gyffredin i ddinasoedd a threfi eraill.
Mae pobl yn teithio i Gaerfyrddin o fannau fel Llundain, er mwyn dianc rhag eu problemau, gan fwriadu byw mewn pabell.
Ond mae hynny’n anodd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Yn aml, maen nhw’n cyrraedd heb gyflenwad o feddyginiaeth bersonol cwbl angenrheidiol.
Daw eu problemau gyda nhw i Gaerfyrddin. Does dim hostel yma i helpu gyda digartrefedd.
Mae’r ffaith fod y Ganolfan mor weladwy (a drws nesaf i siop fetio) yn golygu bod pobl yn gwybod lle i ddod am help.”
Sut ddaethoch chi i fod yn gapten yma?
“Fe wnes i dyfu fyny yn Guernsey mewn teulu oedd yn rhan o Fyddin yr Iachawdwriaeth, ac fel person ifanc roeddwn i’n aelod mewn bandiau pres.
Fe wnes i weithio am 12 mlynedd fel peiriannydd morwrol a gweithiodd fy ngwraig ym myd cyllid a nyrsio cyn i ni deimlo’r alwad i wasanaethu’n amser llawn gyda’r Fyddin.
Fe fuon ni’n gweithio yn Merthyr Tudful cyn dod yma. Rydw i’n arwain yr addoliad ac yn arolygu’r gwaith, ond mae gen i galon dros ein cleientiaid, yn arbennig y rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth.
Tua 30 sy’n dod i addoli. Rydyn ni wedi trio cynnal Ysgol Sul, Llan Llanast a gwaith Ieuenctid, ond mae gwaith plant yn anodd.”
Oes yna elfen Gymraeg i’r gwaith?
“Dim llawer – dydw i ddim wedi llwyddo i ddysgu’r Gymraeg.
Fe wnaethon ni gael rhifyn arbennig Cymraeg o’r WarCry y flwyddyn ddiwethaf.
Mae rhai o’n gwirfoddolwyr yn siarad Cymraeg, ac mae hynny’n help achos mae’n haws i rai cleientiaid agor i fyny am eu problemau yn y Gymraeg.”
Oes gennych chi neges i’r bobl ifanc fydd yn darllen yr erthygl hon?
“Mae gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth yn golygu sefyll i fyny dros bobl sy’n fregus a heb lais.
Buaswn i’n annog unrhyw berson ifanc i fod yn ddewr a defnyddio’u llais i siarad dros bobl mewn angen.
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth hefyd yn eglwys, ac mae’n gwisg ni’n dangos i bawb pwy ydyn ni – pobl sy’n credu yn Iesu Grist.
Mae’n anodd i bobl ifanc heddiw ddangos eu bod nhw’n credu mewn unrhyw beth crefyddol, ond os oes ganddyn nhw ffydd, buaswn i’n annog nhw i fod yn ddewr, a dangos hynny.
Ac yn olaf, buaswn i’n annog unrhyw berson ifanc i edrych i mewn i hanes a gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth a meddwl oes lle iddyn nhw yn y gwaith.
Eto, bydd angen dewrder, ond mae yna gyfleoedd byd-eang i fod yn rhan o’r gwaith.”
Ymlaen i’r dyfodol?
O ddyddiau William a Catherine Booth hyd heddiw, mae’r angen yn parhau, a gweithwyr Byddin yr Iachawdwriaeth yno o hyd i roi eu ffydd Gristnogol ar waith.

Os am ddysgu mwy am Fyddin yr Iachawdwriaeth, cliciwch ar:
https://www.salvationarmy.org.uk/