Dylanwad Crefydd ar Wleidyddiaeth UDA
Trump a Duw / Trump V. Duw.
Unol Daleithiau America! Beth sy’n dod i’r meddwl?
• Hollywood;
• California;
• Miley Cyrus;
• Trump, Biden, Obama;
• ‘Stars and Stripes’ y faner;
• Manhattan ac Efrog Newydd;
• Disneyworld ac Universal Studios;
• Las Vegas;
• Crefydd!!!!!!!!
Daw cannoedd o bethau i’r meddwl wrth feddwl am UDA ond pam crefydd? Y gwir amdani yw bod UDA yn un o wledydd mwyaf crefyddol y byd - yn sicr un o wledydd mwyaf crefyddol y Byd Gorllewinol. Y mae cyfansoddiad UDA yn diogelu hawl pob Americanwr i ddilyn crefydd o’i ddewis - nododd y cyfansoddiad fod ‘rhai gwirioneddau hunaneglur bod pob dyn wedi’i greu’n gyfartal a bod eu creawdwr wedi rhoi rhai hawliau penodol iddynt’. Y mae gwahanu crefydd a’r wladwriaeth yn mynd yn ôl i ddyddiau’r Datganiad Annibyniaeth yn 1776. Yn yr Unol Daleithiau mae rhyddid crefyddol yn bwysig iawn. Ar ôl dweud hynny mae llawer wedi dweud y byddai’n amhosib i anffyddiwr gael ei ethol yn arlywydd.

Yn syml iawn mae tri chwarter o bobl UDA yn cyfri eu hunain yn Gristnogion. Llai na chwarter y bobl sy’n dweud nad ydynt yn dilyn unrhyw grefydd.
Canrannau bychan sy’n dilyn crefyddau eraill; e.e. Iddewon (2.5%), Mwslimiaid, Hindwiaid ac ati o gwmpas 1% yr un! Pan mae’n dod yn fater o gredu yn Nuw mae dros 80% yn ateb yn gadarnhaol ond yn fwy arwyddocaol yw bod dros 50% o Americanwyr yn dweud fod crefydd yn bwysig neu’n bwysig iawn iddynt.
Mae’n bosib casglu bob math o ystadegau manwl ar grefydd yr Unol Daleithiau ar y safle canlynol:
https://www.pewforum.org/religious-landscape-study/

Sut mae’r ystadegau hyn wedi dylanwadu ar etholiadau Unol Daleithiau America?
Yn draddodiadol bu tuedd i Brotestaniaid, ac yn sicr Efengylwyr Cristnogol bleidleisio i’r Blaid Weriniaethol (Republican Party).
Daeth hyn yn fwy a mwy amlwg yn 2020 wrth inni weld sloganau fel ‘Jesus is my Saviour, Trump is my President’ ar grysau T ac ati!
I raddau llawer mwy nag yn y gorffennol gwelwyd hollt gwirioneddol rhwng dwy weledigaeth am ddyfodol America.
Ar y naill law Donald Trump â’i ‘Let’s Make America Great Again’ a Joe Biden a’i neges fwy cynhwysol.
Yr hyn a greodd tyndra ychwanegol oedd y ffaith fod y bleidlais mor agos - yng ngeiriau Cymro/Americanwr Jerry Hunter (Cylchgrawn Barn - Rhagfyr/Ionawr 2020/21),
“Cafodd Joe Biden fwy o bleidleisiau nag unrhyw ymgeisydd arall yn hanes yr Unol Daleithiau... cafodd Donald Trump fwy o bleidleisiau nag unrhyw un arall yn hanes y wlad ar wahân i Joe Biden”.
Cafodd Donald Trump, fel Joe Biden, gefnogaeth syfrdanol.
I ychwanegu at y tensiwn bu Donald Trump yn amharod i dderbyn y canlyniad ac fe wnaeth carfan o’i ddilynwyr ymosod ar adeilad y Capitol yn Washington ar ddechrau 2021.

Mae Jeremy Hunter ac eraill o’r farn bod dau beth yn dylanwadu’n drwm ar ddull Americanwyr o bleidleisio: crefydd a hil. Ym marn sylwebwyr, efengylwyr Cristnogol gwyn yw craidd cefnogaeth Trump a’r Gweriniaethwyr. Mae tua chwarter o holl bleidleiswyr yr Unol Daleithiau yn efengylwyr gwynion. Byddai’r mwyafrif llethol o’r rhain wedi pleidleisio’n draddodiadol i’r Gweriniaethwyr. Yn ôl un arbenigwr mae yna gysylltiad rhwng y math yma o Gristnogaeth a hiliaeth. Mae miliynau ohonynt am gadw’r Unol Daleithiau yn wlad Gristnogol a hefyd ei chadw’n wlad lle mae’r bobl groenwyn yn rheoli. Llwyddodd Trump i roi’r argraff ei fod yn dilyn yr un weledigaeth a nhw. Gwrthododd gondemnio’r rhai oedd yn arddel goruchafiaeth wen (white supremacy), ymatebodd yn llawdrwm iawn ar brotestwyr Black Lives Matter gan eu condemnio fel troseddwyr.

Nid yw hanes bywyd personol a gwleidyddol Donald Trump bob amser yn gyson a safbwyntiau'r garfan hon.
Hwyrach fod ei fywyd ymhell o’r ddelfryd Gristnogol ond yn ôl un gweinidog efengylaidd “mae’n bosib nad yw Donald trump yn edrych fel Cristion, ond rwy’n credu fod Duw yn gweithredu trwy Donald Trump!”

Pan aeth y Piwritaniaid i America yn yr 17eg ganrif roeddent yn credu fod Duw wedi rhoi rôl arbennig yn hanes y ddynoliaeth i America.
Parhau mae’r gred honno ymhlith efengylwyr y wlad - cred fod Duw wedi dewis Unol Daleithiau America fel gwlad Gristnogol a’i chodi uwchben gwledydd y byd - dyma garfan sylweddol o bleidleiswyr naturiol Trump a’r Gweriniaethwyr.
Ar y llaw arall mae rhai o’r farn fod y gefnogaeth fawr i Trump yn adlewyrchu dirywiad crefydd yn America gan nad yw Trump wir yn adlewyrchu safon a moesoldeb Cristnogol a chrefyddol; e.e. erthygl Gary Silverman yn y Financial Times: https://www.ft.com/content/b41d0ee6-1e96-11e7-b7d3-163f5a7f229c
Yn etholiad 2020 yn UDA bu tipyn o sôn am y ‘Bible Belt’. Dyma derm sy’n cael ei ddefnyddio am nifer o daleithiau yn ne-ddwyrain y wlad - taleithiau fel Georgia, Tennessee, Alabama, Mississippi, Virginia, Carolina a Texas. Yma mae Protestaniaeth efengylaidd a cheidwadol yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y bobl. Y mae’r taleithiau yma wedi pleidleisio’n gyson dros y Gweriniaethwyr yn y mwyafrif o etholiadau dros yr hanner canrif a aeth heibio. Ceisiodd Donald Trump apelio at Gristnogion trwy Drydar, ‘mae’r Democratiaid eisiau cau eich eglwysi’ a honnodd ei fab Eric Trump fod ei dad wedi ‘achub Cristnogaeth’. Ymhellach defnyddiodd Donald Trump y term ‘yr un a ddewiswyd (chosen one)’ amdano’i hun gan hawlio fod Duw ar ei ochr ef ac y byddai Biden yn ‘niweidio’r Beibl a gwneud drwg i Dduw’. Mae’n sicr fod Gweriniaethwyr wedi defnyddio Cristnogaeth fel arf o blaid ymdrechion Trump.

Llwyddodd ymgyrch Trump i gael cefnogaeth Efengylwyr amlwg ar gyfer ei ymgyrch. Trefnodd y Parchedig Franklin Graham, mab yr enwog Billy Graham yr hyn a alwodd yn gyfarfod gweddi anferth yn Washington. Dywedwyd nad achlysur gwleidyddol ydoedd ond roedd y pwyslais ar y ffaith mai gwlad Gristnogol oedd America a chafwyd un siaradwr Gweriniaethol ar ôl y llall yn annerch cynulleidfa oedd yn gwisgo sloganau fel ‘Make America Great Again’ a ‘Let’s Make America Godly Again’.

Rhaid cofio mai un traddodiad Cristnogol yw efengylwyr UDA. Mae tua chwarter y boblogaeth yn Gatholigion. Dros y blynyddoedd mae eu pleidlais wedi ei rannu’n weddol gyfartal rhwng y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid. O’r 45 arlywydd a fu yn UDA dim ond dau ohonynt a fu’n Gatholigion - John F. Kennedy oedd y cyntaf a Joe Biden yr Arlywydd presennol yw’r ail. Fel ymgeisydd i’r Democratiaid ac aelod o’r Eglwys Gatholig roedd ei ymgyrch etholiadol ef yn wahanol iawn i un Donald Trump. Mae’n debyg fod ei gefndir Catholig wedi apelio at Gatholigion y wlad. Yn yr un modd soniwyd tipyn am ei wreiddiau Gwyddelig cryf a fyddai’n amlwg yn apelio at Americanwyr gyda chysylltiadau ag Iwerddon. Nid oes patrwm penodol i bleidlais Cymry America ond yn sicr bu nifer o siaradwyr Cymraeg America yn sôn am eu pryderon am Trump. Ceisiodd Biden apelio at ystod eang o bobl gan ddenu cefnogaeth o bob carfan o gymdeithas.

Yn groes i’r darlun a roddwyd yn aml yn yr ymgyrch etholiadol mae llawer o agweddau Rhyddfrydol ym mywyd America. Mae’r hyn a welwn mewn ffilmiau a rhaglenni teledu o America yn wahanol iawn i’r hyn a welwyd ar y newyddion dros y flwyddyn neu ddwy a aeth heibio. Hwyrach mai’r hyn a ddangoswyd yn y canlyniad ar ddiwedd 2020 ydyw’r rhaniadau a’r bylchau anferth sydd ymhlith trigolion UDA. Gwelwyd hynny’n glir yn y canlyniad ei hun. Enillodd Joe Biden 51.3% o’r bleidlais tra yr enillodd Donald Trump 46.9%. Y gamp dros y blynyddoedd nesaf fydd uno’r holl garfannau - Gweriniaethwyr a Democratiaid, y gwyn a’r du, Protestaniaid a Chatholigion gan sicrhau tegwch i leiafrifoedd crefyddol ac ethnig yn cynnwys y rhai o gefndir Lladinaidd fel y Mecsicanwyr, heb anghofio’r Americanwyr brodorol.