Digwyddiadau

3 Mehefin |
Merthyrdod Guru Arjan (1606) (Sikhiaeth) - Guru Arjan oedd y bumed o’r Deg Guru. Cafodd ei arteithio a’i ladd am amddiffyn egwyddorion ei ffydd. |
5 Mehefin |
Pentecost – ‘pen-blwydd’ yr eglwys Gristnogol. Ar ôl derbyn rhodd yr Ysbryd Glan gan Dduw, dechreuodd deuddeg disgybl Iesu gyhoeddi’r Efengyl yn Jerwsalem. |
19 Mehefin |
Sul y Tadau |
20-26 Mehefin |
Wythnos Ffoaduriaid – digwyddiad blynyddol sy'n dathlu cyfraniad ffoaduriaid i'r DU ac sy’n annog pobl i gymryd golwg mwy cadarnhaol ar loches. |
21 Mehefin |
Hirddydd mis Mehefin yw'r Heuldro'r Haf yn Hemisffer y Gogledd a'r Heuldro'r Gaeaf yn Hemisffer y De. |
29 Mehefin |
Laylat al-Qadr (Islam) – noson y credir i Allah ddatgelu'r Qur’an i Fuhammad.(Mwslimiaid Shi’a yn ei ddathlu ar 18.6.17; Mwslimiaid Sunni ar 22.6.17). |
7 – 10 Gorffennaf |
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen – un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf blaenllaw Cymru - gŵyl wirioneddol ryngwladol o gerddoriaeth, dawns a chân. |
9 Gorffennaf |
Eid-ul-Adha (Islam) – Un o’r ddwy brif ŵyl Islam. Mae’n nodi diwedd yr Hajj (pererindod i Makkah), ac yn cofio parodrwydd Ibrahim i aberthu ei fab Ismail. Mae Mwslimiaid dros y byd yn aberthu anifail ac yn rhannu’r cig gyda’u teulu a’u cyfeillion, a hefyd gyda phobl dlawd. |
13 Gorffennaf |
Asalha Puja (Bwdhaeth) - Gŵyl i gofio pregeth gyntaf y Bwdha, lle dysgodd am y Ffordd Ganol, y Pedwar Gwirionedd Nobl a’r Llwybr Wythblyg. |
31 Gorffennaf |
Canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn. |

Gorffennaf 30 - 6 Awst |
Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
6 Awst |
Diwrnod Cofio Bomio Hiroshima. |
6-7 Awst |
Tisha B'Av (Iddewiaeth) – diwrnod trist i lawer o bobl Iddewig yn y Deyrnas Unedig. Mae'n eu hatgoffa o'r gormes a thrais a ddioddefwyd ymhlith pobl Iddewig drwy gydol hanes. |
11 Awst |
Gŵyl Raksha Bandhan (Hindŵaeth) - gŵyl sy’n dathlu’r berthynas arbennig rhwng brodyr a chwiorydd. |
9 Awst |
Diwrnod Cofio Bomio Nagasaki. |
18-19 Awst |
Janmashtami (Hindŵaeth) - Gŵyl i ddathlu pen-blwydd y duw Krishna. |
31 Awst |
Ganesh Chaturthi / Vinayaka Chaturthi - gŵyl Hindŵaidd er anrhydedd i Ganesh / Ganesha, (a elwir hefyd yn Ganapati a Vinayaka). |
21 Medi |
Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig – https://www.un.org/en/observances/international-day-peace Rosh Hashanah (Iddewiaeth) – y flwyddyn newydd Iddewig. Mae’r diwrnod yn cofio Duw’n creu’r byd. Mae hefyd yn dechrau deg diwrnod o edifeirwch am gamweddau yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. |
