Gwybodaeth
E-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg - cylchgrawn tymhorol
Croeso i'r ugeinfed rhifyn o'r e-gylchgrawn i ddisgyblion 11-14 oed. Yn y rhifyn hwn bydd yr erthyglau yn trafod Crefydd a Bwyd.
Bwriad yr e-gylchgrawn tymhorol yma fydd i hybu sgiliau a dealltwriaeth o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau gan osod crefydd mewn cyd-destun eang a pherthnasol. Bydd yr erthyglau hyn yn drawsgwricwlaidd ac yn cynnig symbyliad i drafodaeth ehangach yn y dosbarth.
Nod hefyd yw annog dysgwyr i gael eu hysbrydoli, eu cyffroi a'u herio ac yn eu cymhwyso i fyw bywyd adeiladol yn y byd cyfoes.
- Bydd y deunyddiau yn dangos sut y mae credoau a dysgeidiaethau yn dylanwadu ar fywydau pobl o fewn cymunedau yng Nghymru ac yn fyd-eang.
- Bydd y deunyddiau yn defnyddio'r 'dimensiwn Cymreig' fel y man cychwyn yn hytrach na chyfieithu neu addasu'r safbwynt Seisnig/Saesneg.
- Bydd y deunyddiau yn datblygu dysgwyr ymchwilgar ac annibynnol, meithrin dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
- Bydd y deunyddiau yn datblygu amrediad eang o sgiliau darllen ac yn seiliedig ar y fath o sgiliau mae'r profion PISA yn profi.
Fel y gwelwch oddi fewn i'r e-gylchgrawn bydd:
- o leiaf 3 erthygl (gyda delweddau i gyd fynd â'r cynnwys) ynglŷn â themâu penodol bob tymor - gall y rhain gyd fynd a themâu cenedlaethol/rhyngwladol neu'n adlewyrchu materion cyfoes ynglŷn â chrefydd;
- y 3 erthygl wedi eu gwahaniaethu fel eu bod yn addas i ddarllenwyr o bob gallu ac yn cynnwys gweithgareddau a manylion tasgau estynedig priodol (o fewn y canllawiau athrawon);
- termiadur/geirfa allweddol lle bydd posib i ddysgwyr ddarganfod ystyr termau penodol;
- bydd modd clicio / hofran dros eiriau allweddol o fewn erthyglau er mwyn cael diffiniad syml ohono;
- canllaw athro yn amlygu gweithgareddau yn gysylltiedig â phob erthygl yn cynnig rhestr o dasgau ar ffurf Word/PDF fydd yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm newydd ynghyd â’r disgrifiadau dysgu a chamau cynnydd ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau;
- cysylltiadau i gredoau ac arferion (linciau i dudalennau gwe allanol) er mwyn sicrhau bod y darllenwyr yn derbyn gwybodaeth gywir, gyfoes a diduedd am gredoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol;
- gweithgareddau munud i feddwl a 'podlediadau' eraill gyda manylion tasgau estynedig ar gyfer dysgwyr;
- calendr o ddathliadau/dyddiadau crefyddol.
Mae modd llywio i'r erthyglau (sydd ar ffurf Word / PDF) o'r tudalen blaen. Yma hefyd bydd blwch chwilio ble all y defnyddiwr ganfod erthyglau o ôl-rifynnau.
Rhifyn 20
Awduron: Huw Dylan, Noel Dyer, Llio Owen.
Golygu: Dyfed Roberts.
Datblygwyd gan: Gwasanaeth Dysgu Digidol, Cyngor Gwynedd, Caernarfon.
ymholiadau@gwasanaethdysgudigidol.cymru
Delwedd a Ffotograffiaeth:
Ingimage, Wikipedia, Wikimedia Commons, Hiroki Ogawa CC 3.0, TIBETTRAVEL.ORG, Jadurani Dasi, Hindustan Times, National Assembly for Wales CC 2.0, Blaues Sofa CC 2.0, Dyneiddwyr Cymru / Humanists UK, Humanistlife.org, Memorialise.co.uk.