Beth mae'n ei olygu i fod yn Gymro neu'n Gymraes?
Dydi bod yn Gymro ddim yn golygu byw o fewn ffin Cymru yn unig. Mae'n ymwneud â theimlo’n perthyn i ddiwylliant sydd wedi goroesi trwy ganrifoedd o heriau a newid. Mae'n gallu bod yn anodd diffinio'r syniad o hunaniaeth Gymreig achos mae'n golygu rhywbeth gwahanol i bawb, ond yn aml mae'n gysylltiedig â hanes ac iaith y wlad, a'r ymdeimlad cryf o gymuned. I rai, mae bod yn Gymro/Cymraes yn ymwneud â siarad Cymraeg a hoffi traddodiadau; i eraill, mae'n ymwneud â chysylltiad dwfn â'r tir, y gerddoriaeth, neu hyd yn oed y rygbi. I ddeall beth mae'n ei olygu i fod yn Gymro, mae angen archwilio'r elfennau gwahanol hyn a chydnabod bod profiad pawb yn unigryw.
Jalisa Andrews
Mae iaith y Cymry, sef y Gymraeg, yn fwy na dim ond ffordd o gyfathrebu i lawer o bobl yng Nghymru — mae'n rhan allweddol o'r hyn mae'n ei olygu i fod yn Gymro. Dros y canrifoedd, bu ymdrechion i gael gwared ar yr iaith, fel y gosb "Welsh Not" a ddefnyddiwyd mewn ysgolion yn ystod y 1800au, lle cafodd myfyrwyr eu hannog i beidio â siarad eu hiaith. Er gwaethaf yr heriau yma, mae'r iaith Gymraeg wedi goroesi ac mae bellach yn gryfach nag erioed. Yn ôl cyfrifiad 2021, mae dros 874,000 o bobl yn siarad Cymraeg.
Wedi dweud hynny, mae gan rai pobl syniad yn eu meddwl o sut ddylai person sy'n siarad Cymraeg edrych. Cymraeg yw iaith gyntaf Jalisa Andrews – cafodd ei geni ym Mhort Talbot, ond mae hi wastad yn sylwi ar y 'syndod' ar wyneb pobl pan maen nhw'n ei chlywed yn ei siarad. Mae treftadaeth gymysg Jalisa yn tarddu o'i hen nain a aned yn Jamaica ond mae hi wedi bod yn siarad Cymraeg ar hyd ei hoes. Dywed Jalisa "Dydw i ddim wir yn credu mai hiliaeth ydyw, dwi'n credu ei fod yn fwy o stereoteipio. Mae pawb wedi arfer â'r hyn maen nhw'n arfer efo fo. Felly, maen nhw wedi arfer gweld pwy maen nhw wedi tyfu i fyny efo nhw yn yr ysgol... pwy sydd yn eu cymunedau, pwy sydd yn eu hardaloedd."
Er gwaethaf hyn, mae Jalisa wedi ffeindio ymdeimlad o hunaniaeth gyda'i hiaith. "Mewn sefyllfaoedd cymdeithasol lle dwi'n teimlo fel nad ydw i'n ffitio mewn a dwi'n gwybod bod pobl yn gallu siarad Cymraeg, dyna ydi fy ffordd o gysylltu efo pobl eraill a ffordd o allu gwneud ffrindiau lot cyflymach hefyd. Trwy siarad Cymraeg, mae gen ti dir cyffredin efo rhywun yn syth."
Mae siarad Cymraeg yn ffordd i bobl gysylltu gyda'i gilydd, ond hefyd gyda'u hanes a dangos bod eu diwylliant yn dal yn fyw iawn. I lawer, mae defnyddio'r iaith yn rhoi balchder iddynt ac yn eu cysylltu i genedlaethau o Gymry sy'n ymestyn yn ôl dros fil o flynyddoedd.
I bobl Cymru, mae teimlad cryf o berthyn ynghlwm i'w cymunedau a'u tirweddau lleol. Mae Cymru yn wlad o gymoedd, mynyddoedd ac arfordiroedd, pob un â'i ddiwylliant unigryw. Mae pobl yn aml yn teimlo wedi cysylltu nid dim ond i Gymru gyfan, ond i'w tref, pentref neu hyd yn oed stryd benodol. P'un ai'r trefi glofaol yn ne Cymru neu'r ardaloedd gwledig yn y gogledd, mae hunaniaeth leol yn rhan enfawr o beth mae'n olygu i fod yn Gymro/Cymraes.
Natalie Jones
Mae'r hunaniaethau lleol hyn yn cyfrannu at fwy o ymdeimlad mwy o fod yn un wlad, sy'n seiliedig ar draddodiadau ac atgofion cyffredin. Symudodd Natalie Jones i Gymru pan oedd hi'n 9 oed, ac erbyn hyn mae’n siarad Cymraeg yn rhugl, mae’n athrawes ac mae’n ysgrifennu colofn yng nghylchgrawn Golwg. “Fel y gallwch ddychmygu, gan fy mod yn ddu gydag acen ‘Brummie’, ro’n i’n sefyll allan mewn mwy nag un ffordd! Fodd bynnag, mi ddaethom i ddeall yn fuan iawn nad oedd dysgu Cymraeg yn rhy anodd. Efallai fod y ffaith mod i wedi cael fy nhrochi yn yr iaith wedi helpu, a bod y ffaith fod Mam wedi mynnu ein bod ni'n siarad Cymraeg i fod yn barchus i'n cartref newydd, wedi gwneud y meddylfryd yma'n bosib. Ond, yn bendant, mae'r iaith wedi helpu i wneud i mi deimlo'n fwy fel rhan o gymuned a diwylliant Cymru. Ac nid siarad yr iaith yn unig, ond deall y frwydr a'r hanes sydd wedi cadw'r iaith i fynd."
Ganwyd Natalie i deulu Cristnogol o Fedyddwyr ond cafodd ei hanfon gan ei mam i ysgol Gatholig yn Birmingham am gyfnod, cyn newid yn ddiweddarach ac ymuno â Thystion Jehofa. Roedd hwn yn newid mawr, gan fod yn rhaid iddyn nhw roi'r gorau i ddathlu'r Nadolig, penblwyddi, a gwyliau fel y Pasg a Chalan Gaeaf, yn ogystal â chael eu hannog i guro ar ddrysau dieithriaid. Fodd bynnag, roedd eu ffordd o fyw bob amser yn seiliedig ar garedigrwydd a pharch tuag at bawb. Er nad yw Natalie bellach yn dilyn y grefydd honno, mae hi'n dal i deimlo cyfrifoldeb dwfn i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu eraill. Byddai ei mam yn dod â bwyd i'r henoed a'r digartref yn rheolaidd, ac felly mae hi'n dal i deimlo'n euog os yw'n cerdded heibio rhywun sydd mewn angen.
Teulu, gwaith, a digwyddiadau mawr Cymreig fel yr Eisteddfod yw'r hyn sy'n gwneud i Natalie deimlo'n fwy Cymreig ac yn falch o fod yn rhan o'r gymuned. Cymraeg yw iaith gyntaf ei llystad, yn ogystal â’i gŵr a'i deulu ef. Mae ei gwaith gydag S4C yn rhoi cyfle iddi siarad Cymraeg bron bob dydd a chyfrannu tuag at hybu'r Gymraeg, ac mae hi'n ystyried hynny’n fraint fawr.
Ar y dechrau, roedd hi’n heriol ac yn lletchwith i geisio ‘ffitio i mewn’. Roedd Natalie yn ymwybodol ei bod hi'n edrych yn wahanol i bawb arall, ac oherwydd crefydd ei theulu, roedd teimlo fel rhan o'r gymuned ehangach yn anghyfforddus ar adegau. Byddai pobl weithiau'n syllu arni yn y stryd, ac o bryd i'w gilydd, roedd hi'n destun sylwadau sarhaus. Ar adegau, roedd hi'n teimlo ei bod yn perthyn i fyd hollol wahanol. Cymerodd amser hir iddi ddarganfod pwy oedd hi a dod o hyd i'w lle yn y byd, ac mae trochi ei hun yn nhreftadaeth Cymru a’r iaith Gymraeg wedi bod yn rhan bwysig o'r daith honno.
Sage Todz
Mae Sage Todz yn cynrychioli sut mae diwylliant Cymreig yn newid yn raddol. Mae ei fiwsig yn cadw'r iaith Gymraeg yn berthnasol drwy ei chyflwyno i gynulleidfaoedd newydd. Mae'n rhan o fudiad mwy lle mae pobl ifanc yn ffeindio ffyrdd creadigol o fynegi eu hunaniaeth Gymreig, p'un ai drwy gelf, cerddoriaeth neu drwy weithredu. Nawr, mae gan bobl sydd efallai'n symud i Gymru ffordd newydd o fynegi eu 'Cymreictod', sy'n fwy na'r hyn oedd ar un adeg.
Mae bod yn Gymro neu'n Gymraes yn mynd tu hwnt i iaith, lleoliad, neu oedran – mae'n gymysgedd gyfoethog o draddodiad ac arferion modern, sydd wedi'i gysylltu'n ddwfn i'r tir a chymuned, a phrofiad cyffredin sy'n creu teimlad o undod. O'r mynyddoedd hynafol i ddiwylliant cyfoes, mae hunaniaeth Gymreig yn stori sy'n dal i ddatblygu, a phob cenhedlaeth yn ysgrifennu'r stori. P'un ai ar gae rygbi, mewn cân, neu mewn gŵyl, mae ysbryd Cymru yn dal i fod yma o hyd - dal yma, a dal yn fyw.