Digwyddiadau
									| 4 Mehefin | 
													 Pentecost – ‘pen-blwydd’ yr eglwys Gristnogol. Ar ôl derbyn rhodd yr Ysbryd Glan gan Dduw, dechreuodd deuddeg disgybl Iesu gyhoeddi’r Efengyl yn Jerwsalem. Diwrnod Rhyngwladol Plant Sy’n Dioddef Oherwydd Rhyfel  | 
											
| 16 Mehefin | 
													 Merthyrdod Guru Arjan (1606) (Sikhiaeth) - Guru Arjan oedd y bumed o’r Deg Guru. Cafodd ei arteithio a’i ladd am amddiffyn egwyddorion ei ffydd.  | 
											
| 18 Mehefin | 
													 Sul y Tadau  | 
											
| 19-25 Mehefin | 
													 Wythnos Ffoaduriaid – digwyddiad blynyddol sy'n dathlu cyfraniad ffoaduriaid i'r DU ac sy’n annog pobl i gymryd golwg mwy cadarnhaol ar loches.  | 
											
| 21 Mehefin | 
													 Hirddydd mis Mehefin yw'r Heuldro'r Haf yn Hemisffer y Gogledd a'r Heuldro'r Gaeaf yn Hemisffer y De.  | 
											
| 18/22 Mehefin | 
													 Laylat al-Qadr (Islam) – noson y credir i Allah ddatgelu'r Qur’an i Fuhammad.(Mwslimiaid Shi’a yn ei ddathlu ar 18.6.17; Mwslimiaid Sunni ar 22.6.17).  | 
											
| 26 Mehefin | 
													 Purim (Iddewiaeth) – coffáu achub y bobl Iddewig o Haman.  | 
											
| 3 – 9 Gorffennaf | 
													 Eisteddfod Ryngwladol Llangollen – un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf blaenllaw Cymru - gŵyl wirioneddol ryngwladol o gerddoriaeth, dawns a chân.  | 
											
| 8 – 15 Gorffennaf | 
													 Asalha Puja (Bwdhaeth) - Gŵyl i gofio pregeth gyntaf y Bwdha, lle dysgodd am y Ffordd Ganol, y Pedwar Gwirionedd Nobl a’r Llwybr Wythblyg.  | 
											
| 9 Gorffennaf | 
													 Diwrnod i gofio merthyrdod y Bab (Baha’i).  | 
											
| 31 Gorffennaf | 
													 Canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn.  | 
											
									| 1 Awst | 
													 Tisha B'Av (Iddewiaeth) – diwrnod trist i lawer o bobl Iddewig yn y Deyrnas Unedig. Mae'n eu hatgoffa o'r gormes a thrais a ddioddefwyd ymhlith pobl Iddewig drwy gydol hanes.  | 
											
| 4-12 Awst | 
													 Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Ynys Môn.  | 
											
| 6 Awst | 
													 Diwrnod Cofio Bomio Hiroshima.  | 
											
| 7 Awst | 
													 Gŵyl Raksha Bandhan (Hindŵaeth) - gŵyl sy’n dathlu’r berthynas arbennig rhwng brodyr a chwiorydd.  | 
											
| 9 Awst | 
													 Diwrnod Cofio Bomio Nagasaki.  | 
											
| 15 Awst | 
													 Janmashtami (Hindŵaeth) - Gŵyl i ddathlu pen-blwydd y duw Krishna.  | 
											
| 25 Awst | 
													 Ganesh Chaturthi / Vinayaka Chaturthi - gŵyl Hindŵaidd er anrhydedd i Ganesh / Ganesha, (a elwir hefyd yn Ganapati a Vinayaka).  | 
											
| 31 Awst – 4 Medi | 
													 Cyfnod yr Hajj (Islam) - Pererindod i Makkah. Dyma 5ed piler Islam. Mae’n rhaid i bob Mwslim wneud y Hajj unwaith yn eu bywyd os maent yn medru ei fforddio a bod eu hiechyd yn caniatáu hyn.  | 
											
| 1 Medi | 
													 Cynhelir gwasanaethau diolchgarwch arbennig o gwmpas yr adeg hon o'r flwyddyn i ddiolch am ddaioni rhoddion Duw wrth ddarparu cynhaeaf o gnydau ynghyd â'r holl ffrwythau eraill o gymdeithas.  | 
											
| 2 Medi | 
													 Eid-ul-Adha (Islam) – Un o’r ddwy brif ŵyl Islam. Mae’n nodi diwedd yr Hajj (pererindod i Makkah), ac yn cofio parodrwydd Ibrahim i aberthu ei fab Ismail. Mae Mwslimiaid dros y byd yn aberthu anifail ac yn rhannu’r cig gyda’u teulu a’u cyfeillion, a hefyd gyda phobl dlawd.  | 
											
| 20 Medi | 
													 Cynhadledd Ysgolion Cymru dros Heddwch – Pierhead, Caerdydd. Cliciwch yma i gofrestru:  | 
											
| 21 Medi | 
													 Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig – www.un.org/en/events/peaceday Rosh Hashanah (Iddewiaeth) – y flwyddyn newydd Iddewig. Mae’r diwrnod yn cofio Duw’n creu’r byd. Mae hefyd yn dechrau deg diwrnod o edifeirwch am gamweddau yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.  | 
											
| 21 - 29 Medi | 
													 Navaratri (Hindŵaeth) – Gŵyl y naw noson Nava (naw) Ratri (noson). Mae’n un o brif wyliau Hindŵaeth sy’n para am naw diwrnod, ond yn cael ei dathlu am wahanol resymau mewn gwahanol rannau o’r India - er enghraifft, anrhydeddu’r dduwies Durga; dathlu da yn trechu drwg; gŵyl y cynhaeaf.  | 
											
| 22 Medi | 
													 Cyhydnos – Diwrnod lle mae nos a dydd yr un hyd. Wrth i'r cysgodion ymestyn, mae Paganiaid yn gweld wynebau tywyll y Duw a'r Dduwies. Al-Hijra (Islam) – Y flwyddyn newydd Islamaidd. Mae’r diwrnod yn cofio’r Hijra, sef y Proffwyd Muhammad yn mudo o Makkah i Madinah yn 622 OG i sefydlu’r gymuned Fwslimaidd gyntaf. Mae’r calendr Mwslimaidd yn dechrau o’r dyddiad hwn.  | 
											
| 30 Medi | 
													 Yom Kippur (Iddewiaeth) – gwyliau Iddewig a elwir yn ddydd y cymod. Dyma ddiwrnod mwyaf sanctaidd y flwyddyn yn y calendr Iddewig. Mae’r Iddewon yn ymprydio am 25 awr. Maen nhw’n gofyn i Dduw ac i bobl eraill am faddeuant am eu camweddau yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, ac yn gwneud addunedau i wella yn y dyfodol.  | 
											
									