Gwybodaeth - E-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
E-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg - cylchgrawn tymhorol yn dechrau ym mis Hydref 2016
Croeso i'r drydydd rhifyn o'r e-gylchgrawn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ddysgwyr 11-14 oed, gyda'r thema Rhyfel a Heddwch.
Bwriad yr e-gylchgrawn tymhorol yma fydd i hybu sgiliau a dealltwriaeth o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau gan osod crefydd mewn cyd-destun eang a pherthnasol. Bydd yr erthyglau hyn yn drawsgwricwlaidd ac yn cynnig symbyliad i drafodaeth ehangach yn y dosbarth.
Nod hefyd yw annog dysgwyr i gael eu hysbrydoli, eu cyffroi a'u herio ac yn eu cymhwyso i fyw bywyd adeiladol yn y byd cyfoes.
- Bydd y deunyddiau yn dangos sut y mae credoau a dysgeidiaethau yn dylanwadu ar fywydau pobl o fewn cymunedau yng Nghymru ac yn fyd-eang.
- Bydd y deunyddiau yn defnyddio'r 'dimensiwn Cymreig' fel y man cychwyn yn hytrach na chyfieithu neu addasu'r safbwynt Seisnig/Saesneg.
- Bydd y deunyddiau yn datblygu dysgwyr ymchwilgar ac annibynnol, meithrin dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
- Bydd y deunyddiau yn datblygu amrediad eang o sgiliau darllen ac yn seiliedig ar y fath o sgiliau mae'r profion PISA yn profi.
Fel y gwelwch oddi fewn i'r e-gylchgrawn bydd:
- o leiaf 3 erthygl (gyda delweddau i gyd fynd â'r cynnwys) ynglŷn â themâu penodol bob tymor - gall y rhain gyd fynd a themâu cenedlaethol/rhyngwladol neu'n adlewyrchu materion cyfoes ynglŷn â chrefydd;
- y 3 erthygl wedi eu gwahaniaethu fel eu bod yn addas i ddarllenwyr o bob gallu ac yn cynnwys gweithgareddau a manylion tasgau estynedig priodol (o fewn y canllawiau athrawon);
- termiadur/geirfa allweddol lle bydd posib i ddysgwyr ddarganfod ystyr termau penodol;
- bydd modd clicio / hofran dros eiriau allweddol o fewn erthyglau er mwyn cael diffiniad syml ohono;
- canllaw athro yn amlygu gweithgareddau yn gysylltiedig â phob erthygl yn cynnig rhestr o dasgau ar ffurf Word/PDF fydd yn adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm newydd ynghyd â’r disgrifiadau dysgu a chamau cynnydd ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Y Dyniaethau.;
- cysylltiadau i gredoau ac arferion (linciau i dudalennau gwe allanol) er mwyn sicrhau bod y darllenwyr yn derbyn gwybodaeth gywir, gyfoes a diduedd am gredoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol;
- gweithgareddau munud i feddwl a 'podlediadau' eraill gyda manylion tasgau estynedig ar gyfer dysgwyr;
- calendr o ddathliadau/dyddiadau crefyddol.
Mae modd llywio i'r erthyglau (sydd ar ffurf Word / PDF) o'r tudalen blaen. Yma hefyd bydd blwch chwilio ble all y defnyddiwr ganfod erthyglau o ôl-rifynnau.
Cofiwch gallwch gynnig erthyglau neu gynnwys ar gyfer y rhifyn nesaf (neu rifynnau'r dyfodol) trwy gysylltu â ni.
Rhifyn 3
Awduron: Huw Dylan, Noel Dyer, Catrin Roberts.
Golygu: Bethan James a Mary Parry.
Diolchiadau/cydnabyddiaeth: John Roberts (BBC Radio Cymru - Rhaglen Bwrw Golwg), ‘Rhyfel a Heddwch’.
Cwmni Da - 'Cysgod Rhyfel'.
Cynhyrchwyd gan: Cwmni Cynnal, Penrallt, Caernarfon.
Delwedd a Ffotograffiaeth:
Oxfam, Ingimage, Llynges Frenhinol, Rhyng-ffydd Cymru, MCW, J. W. Brooke: Battle of Pilckem Ridge : gazetaexpress,
Bundesarchiv, Bild 146-1987-074-16 / CC-BY-SA 3.0, CC BY-SA 3.0 de, & 183-R0211-316 / CC-BY-SA 3.0, CC BY-SA 3.0 de. Kevin Trotman : Flickr. Reuters : idUSKBN0LP0AG20150221.
Cofiwch edrych allan am y rhifyn nesaf ym mis Medi 2017.