Digwyddiadau

2 Hydref |
Gandha Jayanti (Hindŵaeth) – Mae Gandhi Jayanti yn wyliau cenedlaethol Indiaidd sy'n dathlu pen-blwydd Mahatma Gandhi, y cyfeirir ato fel 'Tad y Genedl'. |
5 - 12 Hydref |
Sukkot (Iddewiaeth) – Gŵyl cynhaeaf wyth diwrnod a elwir hefyd yn Wledd y Tabernaclau, sy'n coffáu 40 mlynedd y treuliodd yr Iddewon yn yr anialwch ar y ffordd o gaethwasiaeth yn yr Aifft i ryddid yn Nhir Yr Addewid. |
9 Hydref |
Wythnos Genedlaethol Braille – Nod Wythnos Genedlaethol Braille yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Braille a fformatau eraill eraill sy'n agor y byd ysgrifenedig i bobl â nam ar eu golwg |
13 Hydref |
Simchat Torah (Iddewiaeth) – Gŵyl i ddathlu’r Torah. Mae’r ŵyl yn dynodi diwedd y cylch blynyddol o ddarllen y Torah cyfan a dechrau’r cylch newydd o ddarlleniadau. |
16 - 23 Hydref |
Wythnos Rhyng Ffydd o Weddïo am Heddwch yn y Byd – Cyhoeddir gweddïau o lenyddiaeth nifer o wahanol grefyddau'r byd bob blwyddyn mewn taflen arbennig i'w defnyddio yn yr wythnos hon. |
19 - 23 Hydref |
Diwali / Deepavali (Hindŵaeth) – Ar gyfer Hindŵiaid dyma ŵyl y Flwyddyn Newydd sy'n para rhwng un a phum niwrnod. Yn ystod yr ŵyl bydd goleuadau sydd wedi eu hongian ac mae tân gwyllt yn cael eu tanio. |
19 Hydref |
Diwali (Sikhiaeth) – Mae’r Sikhiaid yn dathlu’r ŵyl i gofio am ryddhau’r chweched Guru, Guru Har Gobind, o’r carchar |
22 Hydref |
Pen-blwydd Geni Bahá'u'lláh (Baha'i) – Pen-blwydd geni Bahá'u'lláh, sylfaenydd y ffydd Baha’i, a gafodd ei eni yn Tehran, Persia ym 1817’. |
31 Hydref |
Calan Gaeaf (Paganiaid) – Mae Calan Gaeaf (Halloween) yn ddathliad gwyliau ar nos Fawrth 31ain o Hydref. |
1 Tachwedd |
Gŵyl yr Holl Saint (Cristnogaeth - Eglwysi Gorllewinol) – Mae'r Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr yn symud yr ŵyl hon i'r Sul agosaf os bydd yn disgyn ar ddydd Sadwrn neu ddydd Llun. Diwrnod i gofio'r holl saint. |
4 Tachwedd |
Dathlu geni Guru Nanak (Sikhiaeth) – sylfaenydd y grefydd Sikhiaeth, a’r cyntaf o’r Deg Guru Sikhaidd. Cafodd ei eni ym 1469 . – http://www.bbc.co.uk/schools/religion/sikhism/gurunanak.shtml |

12 Tachwedd |
Sul y Cofio – sef y diwrnod wedi'i neilltuo i gofio'r rhai a lladdwyd yn ystod y ddau ryfel Byd a rhyfeloedd dilynol. |
21 Tachwedd |
Diwrnod Helo – Pwrpas diwrnod helo y byd yn syml yw i hyrwyddo heddwch ledled y byd. |
30 Tachwedd |
Dydd St Andreas (Cristnogaeth) – Roedd Andreas, yr apostol, yn frawd i St Pedr, a'r disgybl cyntaf i ddilyn Iesu. Mae wedi bod yn nawddsant yr Alban ers yr 8fed ganrif. |
1 Rhagfyr |
Pen-blwydd y Proffwyd Muhammad / Milad un Nabi (Islam) – Mae’r ŵyl yn ffocysu ar fywyd, cymeriad a dysgeidiaeth y Proffwyd. Mae rhai Mwslimiaid yn cynnal yr ŵyl ar ddiwrnod gwahanol (ar 6ed Rhagfyr eleni), ac nid yw eraill yn ei dathlu o gwbl). – http://www.bbc.co.uk/religion/religions/islam/holydays/miladunnabi.shtml |
3 Rhagfyr |
Adfent (Cristnogaeth) – Dechrau'r flwyddyn Gristnogol, bedwar dydd Sul cyn y Nadolig. |
8 Rhagfyr |
Diwrnod Bodhi (Bwdhaeth) – dathlu Siddhartha Gautama, y Bwdha, yn cyrraedd goleuedigaeth o dan y goeden Bodhi. |
10 Rhagfyr |
Dydd Hawliau Dynol – Ym 1948 mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol: 'Mae pob un dyn yn cael ei eni gyda hawliau cyfartal a rhyfeddodau sylfaenol.' – http://www.ohchr.org/en/issues/pages/whatarehumanrights.aspx |
13 - 20 Rhagfyr |
Hanukkah (Iddewiaeth) – Hanukkah yw Gŵyl Goleuadau Iddewig |
24 Rhagfyr |
Noswyl Nadolig (Cristnogaeth) – Mae gwasanaethau carolau gyda'r nos. Mae Sion Corn/Santa Clos (Sinter Klaus yr Iseldiroedd) yn ffigwr chwedlonol, yn seiliedig ar St Niclas o Myra, ac mae yn dod ag anrhegion i blant ar Noswyl Nadolig i ddathlu geni Iesu Grist. |
25 Rhagfyr |
Dydd Nadolig (Cristnogaeth) – Diwrnod Nadolig yn dathlu geni Iesu, y mae Cristnogion yn credu sy’n fab i Dduw. |
31 Rhagfyr |
Hogmanay – Dathliad eang ledled y DU, ac yn enwedig yn yr Alban. Mae clirio dyledion, glanhau'r tŷ, croesawu gwesteion a dieithriaid yn rai o draddodiadau sy’n nodweddiadol ar yr adeg yma. |
