Profiad Caplan Carchar, cyfreithiwr sydd bellach yn Archesgob, a chyn-blismon sy’n weinidog |
Bu Catrin Roberts yn siarad gyda’r tri, gan ddechrau gyda’r Parchedig Nan Powell-Davies | ||
![]() |
CR: Nan, fe fuoch chi’n gweithio fel Caplan Carchar am rai blynyddoedd fel rhan o’ch gweinidogaeth.NPD: Do, am wyth mlynedd yng ngharchar dynion a throseddwyr categori B yn Altcourse, Lerpwl. Dyma’r carchar mae troseddwyr o Ogledd Cymru yn cael eu gyrru iddo, ac roedd gen i gyfrifoldeb arbennig dros y Cymry Cymraeg.
|
|||||||||||
![]() |
|||||||||||
CR: Beth oedd patrwm eich gwaith?
|
|||||||||||
![]() |
|||||||||||
CR: Felly, roedd ffydd yn gallu chwarae rhan ym mywyd y troseddwyr. NPD: Wrth gyrraedd y carchar, mae pob troseddwr yn cael y cwestiwn, “Oes gen ti ffydd?” ac os oes, pa grefydd. Yr ateb mwyaf cyffredin oedd – dim ffydd, ond mae’r caplaniaid yno i helpu pawb, ffydd neu beidio! Dyna mae ysgrifau sanctaidd y gwahanol grefyddau yn ei ddysgu – yr angen i gynorthwyo eraill. Roedd yna gaplan Mwslimaidd rhan-amser yno, a byddai caplaniaid sesiynol yn dod ar ran y Tystion Jehofa, Bwdistiaeth, Siciaeth, y grefydd baganaidd, Hindwiaeth, ac Iddewiaeth. Roeddwn i’n arfer arwain astudiaethau Beiblaidd gyda’r nos, yn enwedig gyda’r rhai bregus oedd yn cael eu cadw ar wahân i bawb arall am wahanol resymau. |
|||||||||||
![]() |
|||||||||||
| |||||||||||
CR: Welsoch chi bod gwaith Caplaniaid yn helpu carcharorion? NPD: Yn bendant, roedd cwmni caplan yn help wrth iddynt wynebu argyfwng ac iselder, a’r profiad o golli eu rhyddid. Fe welais nifer o ddynion yn dod i gredu yn Iesu Grist. Roedd un ohonyn nhw, Tony Riley, yn arfer gwerthu cyffuriau ar raddfa fawr, ac yn aelod o gang yn Lerpwl. Roedd o’n arfer dweud bod ei fam yn poeni cymaint amdano nes iddi ddechrau colli ei gwallt! Ond fe newidiodd Tony – gadawodd y carchar y tro diwethaf tua 7 mlynedd yn ôl, ac erbyn hyn mae o’n gynghorydd cyffuriau yn Anfield, ac yn aelod gweithgar iawn mewn Eglwys leol. Felly mae pobl yn gallu newid! Wrth dystio i’r profiad mae Tony yn dweud, “Wrth ddod i mewn ac allan o’r carchar, roeddwn i’n arfer dweud, ‘I came in with nothing, and I go out with nothing.’ Y tro olaf roeddwn i’n gallu dweud, ‘I came in with nothing, but I’m going out with Jesus in my heart!’ |
|||||||||||
![]() |
|||||||||||
| |||||||||||
CR: Ydy cyfnod yn y carchar yn gwneud i bobl sylweddoli bod angen iddyn nhw newid? NPD: Mae llawer o droseddwyr yn honni eu bod yn ddi-euog neu yn bychannu eu trosedd. Fel Caplan fe wnes i helpu gyda chwrs o’r enw SORI – cwrs i helpu pobl i weld bod angen iddyn nhw fod yn wir edifeiriol am yr hyn wnaethon nhw, a meddwl sut roedden nhw’n mynd i gywiro’r niwed a achoswyd. Roeddem ni’n gwahodd aelodau o’r cyhoedd i mewn i dderbyn ymddiheuriadau’r bobl hyn. Roedd yr ystadegau yn dangos fod y troseddwyr oedd wedi dilyn y cwrs SORI yn llawer llai tebygol o ail-droseddu. |
Y Parchedicaf John Davies, Archesgob Cymru
|