
Trosedd a Chosb
Diolch i'r BBC am y podlediad.
Rhaglen yn cofnodi ymweliad a charchar Altcourse, Lerpwl yn trafod gyda carcharorion a chaplan y carchar ar y pryd, ynghyd a thrafod datblygiad ac effaith carchardai newydd heddiw.
0.00-06.15: Sgwrs gyda charcharor o 2006, yn trafod ei ddiwrnod o fewn y carchar yn Altcourse.
06.15-9.07: Trafod teimladau, effaith ar ei deulu, effaith ar ei ddioddefwyr. Ydy’r carcharor wedi newid?
09.07-12.04: Ymweld â’r ganolfan iechyd oddi fewn i’r carchar. Y penderfyniad i dorri lawr ar gyffuriau a thrafod beth yw’r peth gwaethaf ar fod mewn carchar?
12.02-14.50: Ymweld â’r capel oddi fewn i’r carchar a thrafod ffydd.
14.50-17.45: Sgwrs gyda chaplan y carchar (Nan Wyn Powell-Davies). Trafod ei gwaith oddi fewn i’r carchar a thrafod sefyllfa rhai carcharorion a’r bywyd.
17.45-22.34: Carcharor arall yn disgrifio bod mewn cell drwy’r dydd. Y teimlad o golli popeth, teimlad o anobaith. Ydy crefydd yn rhan o fywyd y carcharor? Colli teulu a phrofi profedigaeth. Trafod ei deimladau dros y dioddefwyr.
22.34-25.15: Beth sy’n digwydd o ddydd i ddydd o fewn y carchar? Y gobaith ar ôl cael ei ryddhau?
25.15-29.38: Cyfweliad gyda Mererid Mair (BARA). Cynnig cefnogaeth i garcharorion. Trafod anawsterau ar ôl cael eu rhyddhau? Cymorth ymarferol i deuluoedd.
29.38-finish: Ydy carchardai yn gweithio? Tim Holmes o’r Adran Troseddeg Prifysgol Cymru Bangor yn trafod effeithlonrwydd carchardai. Problemau hen garchardai. Trafod cosbi neu adfer troseddwyr (Y Cwestiwn Mawr - ydyn ni eisiau ail sefydlu troseddwyr yn y gymuned?) Trafod y dioddefwyr - ddioddefwyr efallai yn hoffi’r opsiwn i drafod efo troseddwyr. Trafodaeth yn edrych ar ddatblygiad carchar newydd Berwyn yn Wrecsam.