Digwyddiadau

5 Mai |
Ramadan (Islam). Y nawfed mis o’r calendr Islamaidd. Yn ystod y mis hwn bydd Mwslemiaid yn ymprydio am fis. |
8 Mai |
Shavuot (Iddewiaeth). Gŵyl Iddewig. Y diwrnod rhoddodd Duw y Torah – Pum Llyfr Moses – i’r byd i gyd. |
8-9 Mai |
Yom Ha’atzmaut (Iddewiaeth). Diwrnod Annibyniaeth Israel. |
12-18 Mai |
Wythnos Cymorth Cristnogol |
30 Mai |
Diwrnod Rhyngwladol Plant Sy’n Dioddef Oherwydd Rhyfel |
31 Mai |
Laylat al-Qadr (Islam). . Noson y credir i Allah ddatgelu'r Quran i Fuhammad. |
4-5 Mehefin |
Eid al-Fitr (Islam). Dynodi diwedd Ramadan. |
9 Mehefin |
Pentecost. ‘Pen-blwydd’ yr eglwys Gristnogol. Ar ôl derbyn rhodd yr Ysbryd Glan gan Dduw, dechreuodd disgyblion Iesu gyhoeddi’r Efengyl yn Jerwsalem. |
16 Mehefin |
Merthyrdod Guru Arjan (1606) (Sikhiaeth). Guru Arjan oedd y bumed o’r Deg Guru. Cafodd ei arteithio a’i ladd am amddiffyn egwyddorion ei ffydd. |
16 Mehefin |
Sul y Tadau. |
17-23 Mehefin |
Wythnos Ffoaduriaid. Digwyddiad blynyddol sy'n dathlu cyfraniad ffoaduriaid i'r DU ac sy’n annog pobl i gymryd golwg mwy cadarnhaol ar loches. |
20 Mehefin |
Diwrnod Cenedlaethol Ffoaduriaid. Digwyddiad blynyddol sy'n dathlu cyfraniad ffoaduriaid, ac sy’n annog pobl i gymryd golwg mwy cadarnhaol ar loches. |
20 Mehefin |
Purim (Iddewiaeth). Coffáu achub y bobl Iddewig o Haman. |
21 Mehefin |
Hirddydd mis Mehefin yw'r Heuldro'r Haf yn Hemisffer y Gogledd a'r Heuldro'r Gaeaf yn Hemisffer y De.. |
1-7 Gorffennaf |
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf blaenllaw Cymru – gŵyl wirioneddol ryngwladol o gerddoriaeth, dawns a chân. |
10 Gorffennaf |
Diwrnod i gofio merthyrdod y Bab (Baha’i). |

16 Gorffennaf |
Asalha Puja (Bwdhaeth).
|
3-10 Awst |
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Conwy.
|
6 Awst |
Diwrnod Cofio Bomio Hiroshima..
|
9 Awst |
Diwrnod Cofio Bomio Nagasaki..
|
9–14 Awst |
Cyfnod yr Hajj (Islam). Pererindod i Makkah. Dyma 5ed piler Islam. Mae’n rhaid i bob Mwslim wneud y Hajj unwaith yn eu bywyd os maent yn medru ei fforddio a bod eu hiechyd yn caniatáu hyn.
|
10 Awst |
Tisha B'Av (Iddewiaeth). Diwrnod trist i lawer o bobl Iddewig yn y Deyrnas Unedig. Mae'n eu hatgoffa o'r gormes a thrais a ddioddefwyd ymhlith pobl Iddewig drwy gydol hanes.
|
11-14 Awst |
Eid-ul-Adha (Islam). Un o’r ddwy brif ŵyl Islam. Mae’n nodi diwedd yr Hajj (pererindod i Makkah), ac yn cofio parodrwydd Ibrahim I aberthu ei fab Ismail. Mae Mwslimiaid dros y byd yn aberthu anifail ac yn rhannu’r cig gyda’u teulu a’u cyfeillion, a hefyd gyda phobl dlawd.
|
15 Awst |
Gŵyl Raksha Bandhan (Hindŵaeth). Gŵyl sy’n dathlu’r berthynas arbennig rhwng brodyr a chwiorydd.
|
24 Awst |
Janmashtami (Hindŵaeth). Gŵyl i ddathlu pen-blwydd y duw Krishna.
|
30-31 Awst |
Al-Hijra (Islam) – Y flwyddyn newydd Islamaidd. Mae’r diwrnod yn cofio’r Hijra, sef y Proffwyd Muhammad yn mudo o Makkah i Madinah yn 622 OG i sefydlu’r gymuned Fwslimaidd gyntaf. Mae’r calendr Mwslimaidd yn dechrau o’r dyddiad hwn.
|
2 Medi |
Ganesh Chaturthi / Vinayaka Chaturthi. Gŵyl Hindŵaidd er anrhydedd i Ganesh / Ganesha, (a elwir hefyd yn Ganapati a Vinayaka).
|
21 Medi |
Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig – |
29 Medi |
Rosh Hashanah (Iddewiaeth) – y flwyddyn newydd Iddewig. Mae’r diwrnod yn cofio Duw’n creu’r byd. Mae hefyd yn dechrau deg diwrnod o edifeirwch am gamweddau yn ystod y flwyddyn a aeth heibio..
|
29 Medi – 8 Hydref |
Navaratri (Hindŵaeth). Gŵyl y naw noson Nava (naw) Ratri (noson). Mae’n un o brif wyliau Hindŵaeth sy’n para am naw diwrnod, ond yn cael ei dathlu am wahanol resymau mewn gwahanol rannau o’r India – er enghraifft, anrhydeddu’r dduwies Durga; dathlu da yn trechu drwg; gŵyl y cynhaeaf.
|
