DATHLU’R ATGYFODIAD |
![]() Beth sy’n gwneud i ti ddathlu? Pen-blwydd? Gorffen arholiadau? Pasio arholiad? Hefo pwy fyddi di’n dathlu? Ffrind arbennig? Dy deulu? Criw o ffrindiau? A sut fyddi di’n dathlu? Parti? Pryd o fwyd arbennig? Mynd allan i rywle sbesial? Cristnogion yn dathlu Mae dathlu’n rhan bwysig o fywyd y teulu Cristnogol e.e. dathlu’r Nadolig, dathlu Diolchgarwch, ac yn arbennig dathlu’r Pasg, pan mae Cristnogion yn cofio am groeshoeliad ac atgyfodiad Iesu Grist (LINC : Marc 15 a 16 / beibl.net). Mae’r dathliadau’n amrywio’n fawr ar hyd a lled y byd - oedfaon, gorymdeithiau, actio digwyddiadau’r Pasg ar y stryd……a mwy. |
Y Croeshoeliad a’r Atgyfodiad
Mae cofio’r Croeshoeliad yn gallu gwneud i Gristnogion deimlo’n drist, ond mae’r Atgyfodiad yn achos dathlu a llawenhau.
|
Dathlu’r Pasg yng Nghymru
Ar wahân i wyau Pasg siocled, pa ddarlun ddaw i dy feddwl wrth glywed y geiriau Cristnogion; dathlu; Atgyfodiad; Cymru?...........llond capel o hen bobl yn gwrando ar bregeth?
![]()
Beth ydy LLANW?
Mae’n ŵyl Gymraeg (ond mae ‘na wasanaeth cyfieithu yno) ar gyfer pobl sy’n credu yn Iesu Grist, a hefyd ar gyfer pobl sydd am ddysgu mwy am Iesu a’r ffydd Gristnogol. Mae’n cael ei threfnu gan grŵp o bobl o wahanol enwadau. Y gobaith yw y bydd Cristnogion yn cael eu hysbrydoli i fynd adref ar ddiwedd yr wythnos gydag awydd newydd i fod yn rhan o’u heglwys/capel lleol ac i rannu’r ffydd Gristnogol mewn gair a gweithred.
© Llanw Pan gynhaliwyd LLANW am y tro cyntaf yng ngwersyll Llangrannog yn 2008 dim ond 60 o bobl oedd yno. Erbyn hyn mae tua 400 yn mynychu. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal mewn mannau lle mae yna gyfleusterau i bobl aros – gwersylloedd gwyliau, maes carafannau neu chalets ac mae’r mynychwyr yn gallu manteisio ar y cyfleusterau (pwll nofio, campfa, caffis, traeth….) yn ogystal â mwynhau’r ŵyl ei hun. Mae LLANW wedi ymweld â Llangrannog, Cei Newydd, Dinbych y Pysgod, Cricieth, Cydweli, ac yn 2019 bydd yn dychwelyd i Ddinbych y Pysgod. ![]() © Llanw Profiad dau berson ifanc – a pherson sydd ddim mor ifanc! ![]() Mae Ryan, sy’n 13 oed, wedi bod yn mynd i LLANW ers pedair blynedd, ac yn mwynhau’r profiad. Dyma beth sydd ganddo fo i’w ddweud, Mae LLANW yn helpu plant ifanc a phobl hŷn i ddeall y Beibl, pwy oedd a pwy ydy Iesu. Mae’r addoli yno yn fwy o hwyl na beth sy’n digwydd yn ein capel ni, ac mae’n haws deall beth sy’n cael ei ddweud wrthon ni am Dduw ac Iesu a’r Beibl. Rydw i’n cael hwyl gyda ffrindiau yno ac yn cyfarfod hefo pobl ifanc o bob rhan o Gymru. A dw i wedi dod i ddeall Atgyfodiad Iesu yn well wrth fynd i LLANW. Mae Seren, ei chwaer hefyd yn canmol LLANW. Mae LLANW yn rîli dda. Mae ‘na lot o gyfle yno i siarad hefo Duw a dod yn agosach ato fo. Dw i’n cael gweddïo yno, ac mae pobl hefyd yn gweddïo drosta i. Dw i’n hoffi’r band sy’n arwain y canu a’r mawl. Mae 'na ddigon o weithgareddau eraill hefyd lle dw i’n cael bod yng nghwmni ffrindiau a chael hwyl. Mae pobl hefo gwallt gwyn hefyd yn mwynhau Llanw! – cliciwch ar : ( LINC : Pam fod Llanw yn Wyl sy'n cyflwyno Gobaith - Dr Rhiannon Lloyd / YouTube) i glywed Dr Rhiannon Lloyd yn siarad. Cwestiwn cyn gorffen - Pam yr enw LLANW? Mae’r ymadrodd ‘llanw a thrai’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywbeth sy’n profi llwyddiant am gyfnod ond wedyn dydy pethau ddim yn mynd mor dda. Felly mae gyda’r Eglwys Gristnogol. Mae wedi bod yn gyfnod o drai yn ystod y blynyddoedd diwethaf, capeli’n cau; pobl yn troi cefn ar addoli, ond mae trefnwyr LLANW yn credu bod Duw yn gwneud gwaith newydd yng Nghymru, a bod yr Ysbryd Glân yn ‘llanw’ (dyna sut mae rhai pobl yng Nghymru yn dweud y gair llenwi!) Cristnogion gyda bywyd ac egni newydd. |
