GWEITHGAREDDAU RHESYMU

Dyma adnodd dwyieithog rhyngweithiol sy’n hyrwyddo rhesymu gweithdrefnol i ddysgwyr camau cynnydd 1 – 3 wrth iddynt ymgymryd â’r rhaglen astudio ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd newydd.

Mae’n cynnwys cyfres o 18 gweithgaredd.

Mae pob gweithgaredd yn cynnwys “cap” i weld y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’r disgrifiadau dysgu mae’r gweithgareddau yn eu taro. Mae datblygu’r hyfedreddau mathemategol yn allweddol er mwyn sicrhau cynnydd a dealltwriaeth dwys o fewn mathemateg a rhifedd. Mae’r hyfedreddau yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn rhyng-ddibynnol. Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru ar yr hyfedreddau mathemategol wedi’u cynnwys ar ddechrau pob gweithgaredd.

Mae’r adnodd yn cynnwys opsiwn cyfarwyddiadau clywedol sy’n galluogi’r cwestiynau i gael eu darllen yn uchel i’r dysgwyr.

Gellir ei ddefnyddio ar gyfrifiadur / gliniadur / iPad neu unrhyw ddyfais digidol o’r fath.

Mae’r adnodd yma wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

 

Adnoddau Eraill

E-GYLCHGRAWN CREFYDD,
GWERTHOEDD A MOESEG

RHESYMU'N
RHIFIADOL

E-BAPUR NEWYDD
Y CLICIADUR

CIP AR
FATHEMATEG

E-LYFRAU
MATHEMATEG

E-LYFR GWYLIA
DY HUN GWION

GWERTHUSO
CERDDORIAETH TGAU

DYSGU TRWY
DAEARYDDIAETH

DYLUNIO A
THECHNOLEG TGCH

BUSNES AR WAITH

E-LYFR LLYTHRENNEDD

ON Y VA

LLETYGARWCH AC ARLWYO:
IECHYD, DIOGELWCH A HYLENDID

LLETYGARWCH AC ARLWYO:
DEFNYDDIO CYFARPAR BACH

MYFYRIWR ADEILADU

ADEILADU RHITHWIR