RHESYMU'N RHIFIADOL

Dyma adnodd rhyngweithiol ar-lein, sy’n datblygu gallu disgyblion 11-14 oed a disgyblion 14-16 oed i resymu’n rhifiadol yn eu bywydau pob dydd. Mae’n cynnwys cyfres o gwestiynau aml-gam wedi’i selio ar sefyllfaoedd bywyd go iawn wedi’i rhannu i’r meysydd: Cyllid, Trafnidiaeth, Cartref, Amgylchedd a Hamdden. Addas ar gyfer dysgwyr uwchradd o bob oed.

Mae pob maes yn cynnwys 50 cwestiwn, gyda chwestiynau 1-25 i ddisgyblion 11-14 oed a chwestiynau 26-50 i ddisgyblion 14-16 oed ym mhob adran. Mae’r cwestiynau yn dilyn manylebau TGAU sylfaenol, canolradd ac uwch CBAC.

Drwy weithio drwy’r cwestiynau, bydd y dysgwyr yn dysgu ateb cwestiynau gyda strwythur a bydd hyn yn magu hyder y dysgwr i drin a datrys problemau rhesymu rhifiadol.

Gellir ei ddefnyddio ar gyfrifiadur / gliniadur / iPad neu unrhyw ddyfais digidol o’r fath.

Mae’r adnodd yma wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Adnoddau Eraill

GWEITHGAREDDAU
RHESYMU

E-GYLCHGRAWN CREFYDD,
GWERTHOEDD A MOESEG

E-BAPUR NEWYDD
Y CLICIADUR

CIP AR
FATHEMATEG

E-LYFRAU
MATHEMATEG

E-LYFR GWYLIA
DY HUN GWION

GWERTHUSO
CERDDORIAETH TGAU

DYSGU TRWY
DAEARYDDIAETH

DYLUNIO A
THECHNOLEG TGCH

BUSNES AR WAITH

E-LYFR LLYTHRENNEDD

ON Y VA

LLETYGARWCH AC ARLWYO:
IECHYD, DIOGELWCH A HYLENDID

LLETYGARWCH AC ARLWYO:
DEFNYDDIO CYFARPAR BACH

MYFYRIWR ADEILADU

ADEILADU RHITHWIR