Cofnodi ymwelwyr i’ch ysgol mewn dull modern, diogel, di-bapur ac effeithiol.
Mae Gwasanaeth Dysgu Digidol wedi datblygu system ddigidol ddwyieithog arloesol i gofnodi ymwelwyr â’ch ysgol mewn proses ddiogel, syml a chyflym. Gellir gosod y system ar iPad ar stondin yn y dderbynfa neu unrhyw ddyfais sydd â phorwr. Mae gan y system nodwedd i gofnodi yn ddi-gyswllt gyda chod QR yn unig. Gall ymwelwyr gofnodi yn ddigyswllt drwy sganio’r cod QR gyda’i ffôn glyfar.
Dewis diogel i gymryd lle llyfrau ymwelwyr!
Gallwn deilwra’r ffurflenni yn arbennig i’ch anghenion chi. Mae’r system yn cynnwys cyfrif gweinyddwr sy’n rhoi trosolwg byw o ymwelwyr yr ysgol. Gallwch weld y dashfwrdd gweinyddol drwy’r we ar unrhyw ddyfais o unrhyw le!
NEWYDD : Mae posib personoleiddio’r system i gynnwys logo a lliwiau’r ysgol!
Cost
Prisiau’n amrywio o £84.99 + TAW i £134.99 + TAW (yn dibynnu ar CLG).