Digwyddiadau

Medi 5 |
Ganesh Charturi Mae Ganesh Chaturthi, sydd hefyd yn cael ei alw’n Vinayaka Chaturthi yn Hindŵaeth yn ŵyl 10 diwrnod sy'n nodi genedigaeth y duw pen eliffant Ganesha, duw ffyniant a doethineb. Mae'n dechrau ar y pedwerydd diwrnod (chaturthi) o fis Bhadrapada (Awst-Medi), chweched mis y calendr Hindŵaidd. |
Medi 5 |
Wythnos Rhoi Organau Yn cynnig cyfle i'r gymuned rhoi organau a thrawsblaniad i hyrwyddo rhoi organau yn genedlaethol ac yn lleol, tra'n tynnu sylw at bwysigrwydd rhoi organau a dathlu rhai sydd wedi achub bywydau. |
Medi 8 |
Diwrnod Llythrennedd Cenedlaethol I ganolbwyntio sylw ar anghenion llythrennedd ledled y byd. |
Medi 13 |
Eid-al-Adha Eid al-Adha yw'r olaf o'r ddau wyliau swyddogol sy'n cael eu dathlu o fewn Islam (y llall yw Eid al-Fitr). Mae'n anrhydeddu parodrwydd Ibrahim (Abraham) i aberthu ei fab Ismail (Ishmael) fel gweithred o ufudd-dod i orchymyn Allah. Mae'r ŵyl hefyd yn nodi diwedd y bererindod Hajj i Mecca. Mae llawer o Fwslemiaid yn gwneud ymdrech arbennig i wisgo dillad newydd, yn mynychu gwasanaeth gweddïo mewn mosg ac i wrando ar bregeth. |
Medi 21 |
Diwrnod Rhyngwladol Heddwch Diwrnod o gadoediad byd-eang a di-drais. |

Gŵyl Gynhaeaf (Gŵyl Diolchgarwch) Yr achlysur yn yr hydref pan fydd pobl yn mynd i'r capel neu eglwys i ddiolch i Dduw am fwyd, yn enwedig bwyd sydd wedi cael ei gasglu yn ystod y cynhaeaf. |
|
Hydref 1 |
Navaratri yn cychwyn Gŵyl Hindŵaidd sylweddol sy'n cael ei arsylwi am 9 noson a 10 diwrnod. Yn ystod Navratri, mae naw math o Dduwies Durga yn cael ei haddoli. |
Hydref 3 |
Hijra Blwyddyn Newydd Islamaidd - sef siwrnai Islamaidd y proffwyd Muhammad a'i ddilynwyr o Mecca i Yathrib, ail enwyd yn ddiweddarach ganddo ef i Medina. |
Hydref 11 |
Dusshera Yn ôl y calendr Hindŵaidd, mae'r ŵyl hon yn cael ei dathlu ar y degfed dydd o'r mis Ashwin bob blwyddyn. |
Hydref 16 |
Diwrnod Bwyd y Byd Mae'r byd yn cynhyrchu digon o fwyd i bawb, ac eto pob 5 eiliad mae plentyn yn marw o newyn neu ddiffyg maeth. |
Hydref 30 |
Diwali Bob blwyddyn mae pobl o bob cymuned yn dathlu'r ŵyl yma i groesawu pelydr newydd o obaith yn eu bywydau, pan gredir i holl rymoedd negyddol gael eu tynnu o'r cartref a bywyd. Cyn Diwali, bydd pobl yn glanhau eu cartref ac yn ei beintio gyda lliwiau deniadol. |

Tachwedd 14 |
Wythnos gwrth fwlio Annog ysgolion i fynd i'r afael â bwlio a gwneud ysgolion yn amgylcheddau dysgu diogel. |
Tachwedd 18 |
BBC Plant mewn Angen |
Rhagfyr 25 |
Dydd Nadolig Dathlu diwrnod genedigaeth Iesu Grist. |
Rhagfyr 26 |
Gŵyl San Steffan Diwrnod ar ôl dydd Nadolig. Yn draddodiadol, roedd yn ddiwrnod pan roedd cyflogwyr yn dosbarthu arian, bwyd, dillad neu nwyddau gwerthfawr i'w gweithwyr. Yn y cyfnod modern, mae'n ddiwrnod pwysig i ddigwyddiadau chwaraeon a dechrau'r gwerthiant ôl-Nadolig. |