Wel am gwestiwn dwl! Wrth gwrs bod rhoi organau i helpu eraill yn beth da – sut yn y byd allai beidio a bod? Yn anffodus tydi dysgeidiaeth grefyddol byth cweit mor syml a hynny, yn arbennig ar faterion moesol ac mae rhoi organau yn un o'r pynciau hynny. Mae crefyddau'r byd wedi bod yn ystyried y pwnc ers peth amser ond wrth gwrs y mae penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i newid y drefn ynglŷn â rhoi caniatâd i ddefnyddio organau ar gyfer eu trawsblannu wedi dod a sylw mawr i'r mater. Rhoi organau yw rhoi fel rhodd un o organau'r corff megis calon, iau, aren i helpu rhywun arall sydd angen trawsblaniad. Mae hyn yn digwydd ran amlaf ar ôl i'r un sy'n rhoi farw.
![]() Eto'i gyd mae rhai trawsblaniadau yn digwydd lle mae'r un sy'n rhoi yn fyw ac yn parhau i fyw ar ôl y trawsblaniad. Mae sawl enghraifft o chwaer yn rhoi un o'i harennau i chwaer arall neu fam i ferch. Yn sicr mae rhoi organau yn achub neu wella bywydau cannoedd o bobl bob blwyddyn. Beth felly yw barn rhai o brif grefyddau'r byd ar y mater yma?
![]() |
|
Er mai penderfyniad personol yw rhoi organau gellir dweud bod Cristnogaeth yn gyffredinol, Protestaniaid a Chatholigion yn gryf iawn o blaid.
| |
Dywedodd Sentamu Ebor, Archesgob Efrog, 'Mae miloedd o bobl yn y Deyrnas Unedig yn disgwyl am drawsblaniad allai achub neu wella eu bywydau yn sylweddol ...... |
|
|
![]() |
Mae mwy o anghytuno ynglŷn â rhoi organau i'w weld o fewn Islam. I rai Mwslimiaid mae cam-drin y corff dynol,
cyn neu ar ôl marwolaeth wedi ei wahardd yn Islam.
Er fod Islam yn gwahardd cam-drin y corff mae rhai Mwslimiaid yn cyfeirio bod yr hyn sy'n angenrheidiol yn ôl
dysgeidiaeth Islam yn bwysicach nag unrhyw waharddiad. Gelwir hyn yn al-darurat tubih al-mahzurat. |
![]() |
|
Does na r'un cyfraith grefyddol sy'n gwahardd Hindŵiaid rhag rhoi organau. Mae bywyd ar ôl marwolaeth yn bwysig iawn i Hindŵiaid.
Maent yn credu mewn ail-ymgnawdoliad a bod yr enaid ar ôl i'r corff farw yn symud ymlaen i gorff arall. Gall hyn ddigwydd filoedd o weithiau
nes iddynt buro'u karma a thorri cylch ail-eni a chyrraedd Moksha. |
|
Mae'r ysgrythurau Hindŵaidd yn cefnogi y
syniad o roi a thrawsblannu organau. Yn rhestr y deg Niyamas neu weithredoedd da, Daan sef rhoi anhunanol yw'r trydydd o ran pwysigrwydd.
Felly rhoi organau – da neu ddrwg? |