Islam a maddeuant
Gellir diffinio maddeuant fel penderfyniad bwriadol i roi’r gorau i deimlo’n flin ac yn chwerw oherwydd gwrthdaro gyda rhywun arall, er enghraifft os oedd dy ffrind wedi dweud celwydd wrthyt ti, gelli faddau i'r ffrind hwnnw i wneud yn iawn am hynny. Efallai y bydd y weithred a wnaeth dy frifo yn aros gyda ti bob amser, ond gall gweithio ar faddau i eraill leihau’r boen yr wyt yn ei theimlo, a gall hyd yn oed arwain at deimladau o ddealltwriaeth tuag at yr un a wnaeth dy frifo. Fodd bynnag, nid yw maddeuant yn golygu esgusodi'r niwed, na dod yn ffrindiau eto gyda'r un wnaeth dy frifo; gall maddeuant fod yn rhywbeth personol fydd yn dod â math o heddwch sy'n gadael i ti ganolbwyntio arnat ti dy hun a'th helpu i fynd ymlaen gyda bywyd.
Mewn hanes diweddar, mae delwedd Islam yn aml wedi cael ei llywio gan y cyfryngau, gan bortreadu crefydd o drais, eithafiaeth a ffwndamentaliaeth; crefydd sydd ddim yn cyd-fynd gyda maddeuant a heddwch. Mae hyn wedi digwydd oherwydd gweithredoedd a wnaed gan leiafrif, ynghyd â diffyg dealltwriaeth o wir ystyr Islam. Mewn cymdeithas amlddiwylliannol amrywiol a ffyniannus, mae'n hollbwysig ein bod yn deall gwir ystyr Islam, gan fod ei hystyr yn ymgorffori'r cysyniadau o heddwch, teyrngarwch, cymuned a maddeuant.

Mae maddeuant yn rhan bwysig o Islam, gan fod Mwslimiaid yn credu y gall pawb wneud camgymeriadau. Rydym ni i gyd yn fodau dynol ac rydw i'n siŵr y gallwn gytuno y byddai'n amhosib mynd trwy fywyd heb wneud camgymeriadau! Oherwydd hyn, mae Islam yn addysgu bod yn rhaid i fodau dynol ddeall pwysigrwydd maddeuant, yn enwedig os ydyn nhw'n disgwyl i Allah faddau iddyn nhw fel dilynwyr. Mae un o brif egwyddorion Islam i'w weld ym Mhum Piler Islam, Shahada, sef y gred mewn un Duw. Mae Mwslimiaid yn canolbwyntio eu credoau o amgylch y piler hwn, gan ddatgan eu ffydd yn Allah yn unig. Yn ôl Islam, mae Allah yn drugarog a maddeugar ac yn cael yr enw ‘yr un tosturiol a thrugarog’ hyd yn oed, sy’n dangos bod Allah yn maddau’r cyfan. Oherwydd hyn, mae Mwslimiaid yn credu y dylen nhw hefyd fod yn faddeugar a dilyn yr un llwybr â'u Duw. Maen nhw'n credu y dylid datrys gwrthdaro bob amser trwy gymodi a rhoi maddeuant, ac mae hyn yn ei dro yn arwain at heddwch. Gan fod bodau dynol yn gallu gwneud camgymeriadau gyda neu yn erbyn bodau dynol eraill, ac wrth gyfathrebu a chysylltu gyda'u Duw, mae Mwslimiaid yn deall bod arnynt angen maddeuant oddi wrth ei gilydd, yn ogystal ag oddi wrth Allah ei hun. Er enghraifft, mae adnod 15:85 o’r Qur’an yn dangos pa mor bwysig yw maddeuant wrth edrych ar fywyd ar ôl marwolaeth, mater sy’n mynd â nhw y tu hwnt i’r byd materol hyd yn oed. 'Nid ydym wedi creu y nefoedd a'r ddaear a phopeth yn y canol heb bod iddynt bwrpas. Ac mae'r Awr yn sicr o ddod, felly maddeuwch yn drugarog.' (Qur'an 15:85) Yn yr adnod hon, rydym yn cael ein hatgoffa bod ein hamser ar y ddaear hon yn fyr, a bod llawer mwy i'r byd na’r hyn yr ydym ni yn ei wybod, felly rhaid i ni geisio deall pwysigrwydd maddeuant. Os ydym ni ein hunain yn gobeithio cael maddeuant am ein camgymeriadau, mae angen inni faddau a gweddïo am faddeuant i eraill.

© CBAC
Mae Mwslimiaid hefyd yn uchel eu parch at sylfaenydd Islam, y Proffwyd Muhammad (ti) Fel Proffwyd, credir bod Muhammad wedi derbyn gair olaf Duw, gan wneud Islam y grefydd derfynol ac eithaf. Yn union fel Allah, argymhellodd Muhammad hefyd i faddeuant fod yn rhan ganolog o Islam. Er enghraifft, dywedodd Muhammad, ‘I’r sawl sy’n dioddef camwedd ac yn maddau (i'r sawl sy’n gyfrifol), bydd Duw yn codi ei statws ac yn dileu un o’i bechodau.’ Mae hyn yn dangos pwysigrwydd maddeuant o fewn Islam, gan fod rhywun sydd â’r gallu i faddau yn cael ei weld yn hynod yng ngolwg Duw, i'r graddau bod ei bechodau’n cael eu dileu! Bydd Mwslimiaid yn gwneud eu gorau i ddilyn esiampl Muhammad yn eu bywydau bob dydd. Gwyddir o'r Hadith bod y proffwyd yn garedig ac yn barod i faddau; felly, bydd Mwslimiaid yn credu bod maddeuant yn weithred werthfawr a phwysig. Roedd Muhammad yn arfer maddau a gweddïo dros y rhai a wnaeth gam ag ef, gan hyd yn oed helpu gwraig pan gafodd ei churo'n ddrwg, er ei bod yn aml yn brwsio baw i'w gyfeiriad. Felly, y neges i'w hystyried yw maddau i bawb, ffrind a gelyn fel ei gilydd.
Mae llyfr sanctaidd Islam, y Qur’an, yn datgan nad oes diwedd ar faint o weithiau y gall Allah faddau, gan ei fod yn maddau sawl gwaith drwy'r cyfan. Yn aml mae Allah yn cael ei alw'n 'Y Trugarog'. Yn ôl y testun Sanctaidd: ‘Mae Duw yn caru’r rhai sy’n troi ato Ef mewn edifeirwch, ac mae Ef yn caru’r rhai sy’n cadw eu hunain yn bur.’ Felly mae Mwslimiaid yn dilyn camau Allah a Muhammad wrth fyw bywyd o faddeuant a chariad.