| 
										 
											
											Erthygl 2: Arweinwyr Crefyddol yn Ffoaduriaid. Ym mis Medi 2015 dychrynwyd y byd gan ddelweddau o gorff ffoadur o Syria a gafodd ei olchi ar lan y môr yng Ngwlad Twrci. Roedd Aylan Kurdi yn dair oed ac yn gorwedd yn farw ar y traeth. Un o blith degau o filoedd o ffoaduriaid ydoedd ond fe wnaeth y darluniau ohono grisialu dioddefaint y gweddill.  | 
									
								
										 
									 | 
								
| 
									  Erbyn heddiw mae agwedd pobl at ffoaduriaid o Syria a lleoedd eraill yn y Dwyrain Canol yn un cymysg a chymhleth. 
									 Mae yna lawer o gydymdeimlad yn sicr. Yn rhannol efallai oherwydd bod llawer yn gyffredin rhwng hanes y ffoaduriaid a bywyd Iesu.
									   | 
| 
									  Roedd Iesu, Mair a Joseff yn ffoaduriad yn y Dwyrain Canol. 
									 Mae hanes y geni’n darlunio teulu yn chwilio am le i aros  dim ond i ddarganfod nad oedd lle iddynt ym Methlehem. 
									   | 
										 
									 | 
								
| 
										 
									
									 ‘Ar ôl iddyn nhw (y gwŷr doeth) fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. 
									 Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! 
									 Dos â'r plentyn a'i fam i'r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. 
									 Mae Herod yn ceisio dod o hyd i'r plentyn er mwyn ei ladd.” 
									 Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gyda'r plentyn a'i fam.  
									 Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw.’(Mathew 2:13-14)
									   | 
										 
									 | 
								
| 
										 
									
									 Y mae’r Dalai Lama’n ffoadur.  | 
										 
									 | 
								
| 
									 
									 Yn dilyn ymosodiadau gan China ceisiodd y Dalai Lama arwain ei bobl gan gynnal llawer o drafodaethau heddwch gyda llywodraeth China. 
									 Ceisiodd Tibet wrthsefyll China ond y canlyniad oedd trechu Tibet a gormesu’r bobl. 
									 Gorfodwyd y Dalai Lama i droi’n ffoadur a gadawodd Tibet yn 1959. 
									 Erbyn hyn mae ef a dros 100,000 o ffoaduriaid eraill o Tibet yn byw ar draws y ffin yn Dharamsala yng Ngogledd India, Nepal a Bhutan. 
									 Ers hynny bu’r Dalai Lama’n atgoffa’r byd o sefyllfa fregus ei wlad gan geisio amddiffyn hawliau pobl Tibet. 
									 Bu’n teithio’r byd fel llysgennad dros ei wlad.  
									   | 
										 
									 | 
								
| 
									 
									 Yn 1989 enillodd Wobr Heddwch Nobel oherwydd ei ymdrech di-drais dros ryddid a hawliau pobl Tibet. 
									 Er iddo ef ac eraill o bobl Tibet orfod byw fel ffoaduriaid, parhau gwnaeth eu ffydd dros ymdrechion heddychlon o blaid pobl ei wlad. 
									 Teithiodd i 67 o wledydd, siaradodd ag arweinwyr di-ri a bu’n rhannol gyfrifol am ysgrifennu dros gant o lyfrau.
									   | 
										 
									 | 
								
| 
									 
									Am ffoaduriaid dywedodd, ‘Wrth edrych i wyneb pob ffoadur, yn arbennig y plant a’r merched, gallwn deimlo eu dioddefaint’.  
									Y mae wedi dweud bod croeso rhai o wledydd Ewrop i ffoaduriaid o’r Dwyrain Canol wedi bod yn ardderchog. 
									  | 
