Bwyd a dathliadau
Ydach chi wedi meddwl erioed gymaint o ran sydd gan fwyd mewn dathliadau crefyddol ac anghrefyddol?
Fedrwch chi feddwl am ddathliadau personol a theuluol lle mae bwyd a bwyta wedi bod yn rhan fawr ohonynt?
Does dim angen meddwl yn galed iawn oherwydd mae cymaint ohonyn nhw - cinio neu de i ddathlu bedydd neu seremoni enwi, parti pen-blwydd efo’r deisen a’r canhwyllau, gwledd briodas a hyd yn oed te claddu. Heb sôn am yr hyn sy’n cael ei fwyta ar adegau arbennig o’r flwyddyn fel twrci adeg y Nadolig ac wyau siocled adeg y Pasg.
Pam da chi’n meddwl fod bwyd mor ganolog i’r dathliadau? Mae bwyd yn iaith sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau crefyddol, diwylliannol a chymdeithasol. Mae bwyd yn medru dod â phobl at ei gilydd. Nid rhywbeth i’r corff yn unig yw bwyd – mae’n gallu cynrychioli gwerthoedd sy’n bwysig o fewn crefyddau arbennig, o fewn diwylliannau gwahanol ac o fewn cymdeithas yn gyffredinol.
Mae’r defnydd o fwyd wedi bod yn rhan o ddathliadau crefyddol erioed. Mae bwydydd gwahanol yn cynrychioli elfennau gwahanol yn y gwyliau crefyddol amrywiol.
Eid al-Fitr
Mae gŵyl Eid al-Fitr yn dod ag ympryd mis Ramadan i ben yn y grefydd Islamaidd. Bydd teuluoedd a ffrindiau yn cyfarfod i fwynhau prydau a chyfnewid anrhegion. Mae'n achlysur llawen sy'n llawn cariad, hapusrwydd a diolchgarwch. Mae Eid yn cael ei alw’n ‘Eid melys’ neu ‘Ŵyl siwgr’ oherwydd y danteithion melys sy’n cael eu bwyta. Mae'n debyg bod y traddodiad o fwyta melysion ar Eid al-Fitr wedi ei gychwyn gan Fwslimiaid cynnar ym Medina, Saudi Arabia, oedd yn defnyddio cynhwysion coginio oedd ar gael fel datys a mêl ar gyfer eu dathliadau. Mae’r siwgr sy yn y ddau fwyd yn rhoi egni ar ôl mis o ymprydio. Wrth i Islam ymledu ar draws y byd, defnyddiodd y gwledydd hynny eu cynhwysion a'u gwybodaeth goginio eu hunain ar gyfer eu dathliadau Eid al-Fitr, gan arwain at y myrdd o brydau Eid al-Fitr sydd ar gael heddiw.
Mae bwyd hefyd yn cael lle blaenllaw o fewn dathliadau Iddewig. Mae Gŵyl y Peshach yn dathlu sut y bu i’r Iddewon ddianc o gaethiwed yn yr Aifft dan arweiniad Moses. Un o’r prif ddigwyddiadau yn y dathliadau yw pan ddaw’r teulu at ei gilydd i fwyta pryd y Seder.
Plat y Seder
© https://www.flickr.com/photos/29233640@N07/3425839221/
Ar ganol y bwrdd mi fydd plât y Seder a phob un o’r bwydydd arno yn cynrychioli rhyw agwedd o’r hanes ac o brif thema’r Peshach sef cael dianc o gaethwasiaeth i ryddid. Mae o leiaf pum bwyd yn mynd ar y plât seder: asgwrn shank (seroa) - cig oen ran amlaf i atgoffa am y Degfed Pla lle bu i waed yr ŵyn ar y drysau arbed yr Iddewon rhag angel marwolaeth; wy (beitzah) sy’n cynrychioli tymor y gwanwyn, perlysiau chwerw (maror) i atgoffa am chwerwder caethwasiaeth a dagrau’r caethweision, llysiau gwyrdd (karpas) i gynrychioli tyfiant y gwanwyn a phast melys o'r enw haroset (cymysgedd o afalau, raisins, cnau, perlysiau a gwin) yn symbol o’r mortar roedd y caethweision Iddewig yn ei ddefnyddio i adeiladu i’r Eifftiaid. Yn gyffredinol dim ond ychydig bach o fwyd symbolaidd sydd ar blât y seder. Bydd pryd mwy sylweddol yn dilyn y pryd symbolaidd.
Gŵyl Iddewig arall yw’r Purim sy’n cofio am y frenhines Esther a’i hewythr Mordecai yn achub yr Iddewon rhag cynllwyn Haman i’w lladd. Dyma ŵyl fwyaf llawen yr Iddewon a bwyta ac yfed yn rhan allweddol ohoni. Un o’r bwydydd mwyaf poblogaidd ar Purim ydi teisennau triongl o'r enw Hamantaschen, sy'n llawn hadau pabi. Maen nhw'n bwyta hadau oherwydd dim ond hadau yr oedd Esther yn eu bwyta tra roedd hi'n byw ym mhalas y brenin. Mae ‘Hamantaschen’ yn gallu cael ei gyfieithu fel ‘pocedi Haman’ sy’n cyfeirio at y llwgrwobrwyon yr oedd yn ei dderbyn neu fel ‘clustiau Haman’ sy’n cyfeirio at y math o gap neu het yr oedd yn ei wisgo.
Gŵyl y Pasg
Gwelir bwydydd gwahanol hefyd yn rhan nid yn unig o ddathliadau’r Pasg Cristnogol ond o ddathliadau’r ŵyl yn gyffredinol. Yr un mwyaf poblogaidd yw’r wy sy’n symbol o fywyd newydd ac felly o’r gwanwyn ond i Gristnogion mae hefyd yn symbol o atgyfodiad Iesu. Mae’r plisgyn tu allan yn cynrychioli'r ogof y rhoed Iesu ynddi a’r cyw oddi mewn i’r wy yn cynrychioli Iesu ei hun. I Gristnogion mae bwyta ‘picen y Grog’ (Hot Cross Bun) yn golygu diwedd y Grawys gyda’r groes ar y top yn cynrychioli croeshoeliad Iesu. Caiff teisen Simnel hefyd ei bwyta adeg y Pasg. Yn draddodiadol caiff ei haddurno efo unarddeg o beli marzipan, un ar gyfer pob un o ddisgyblion Iesu. Nid oes un ar gyfer Jiwdas gan iddo fradychu Iesu. Yn aml i ginio ar Ddydd Sul y Pasg ceir cig oen sy’n atgoffa Cristnogion am aberth Iesu fel oen Duw. Efallai mai’r bwydydd mae Cristnogion yn ei gysylltu fwyaf a’r Pasg yw’r bara a’r gwin sy’n cael eu defnyddio yng ngwasanaeth yr Offeren/Cymun/Swper yr Arglwydd ac sy’n eu hatgoffa o Iesu yn ystod y Swper Olaf yn cymryd bara a’i dorri fel symbol o’i gorff yn cael ei dorri ar y groes a gwydriad o win fel symbol o’i waed yn cael ei dywallt ar y groes. Yn ystod blynyddoedd cynnar yr Eglwys Gristnogol roedd bwyta’r bara ac yfed y gwin yn symbolaidd yn rhan o bryd bwyd mwy sylweddol o’r enw gwledd yr Agape sef gwledd cariad. Byddai Cristnogion yn dod a bwyd eu hunain i fwyta yng nghwmni ei gilydd.
Cacen gri
Mae bwyd hefyd yn rhan o ddiwylliant a hunaniaeth gwahanol wledydd a phobl. Oes yna fwydydd sy’n rhan o’n hunaniaeth ni fel Cymry? Yn hanesyddol mae bwyd Cymreig wedi bod yn fwyd iachus syml - seigiau swmpus wedi'u gwneud gyda dim ond ychydig o gynhwysion syml o ansawdd. A heddiw mae pwyslais mawr ar yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘fwydydd Cymreig’ – o gig a llefrith, i gaws a gwin, i lysiau, wyau a theisennau, o jam a phicl i gwrw a gwirodydd a llawer mwy. Cynnyrch wedi ei eni a’i fagu a’i gynhyrchu yma yng Nghymru – bwyd yn ein cynrychioli ni fel Cymry.
Mae'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn enghraifft arall o hunaniaeth unigryw sy'n cael ei ddathlu gyda bwyd. Un o ddigwyddiadau pwysicaf yr ŵyl yw cinio Nos Galan. Mae'r cinio yn gyfle i deuluoedd Tsieineaidd ddod at ei gilydd ac os na all aelod o'r teulu ddod i’r pryd, bydd y teulu'n gadael eu lle yn wag wrth y bwrdd ac yn gosod set o offer ar eu cyfer. Mae yna amrywiaeth o seigiau sy'n cael eu paratoi'n aml ar Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gan gynnwys ‘spring rolls’ a thwmplenni.
I nifer o bobl yn ein cymdeithas ni mae mynd allan am bryd o fwyd yn ffordd o ddathlu rhai o’r pethau sy’n bwysig iddynt mewn bywyd – cysylltiadau teuluol, cyfeillgarwch a chymuned. Mae ‘clwb cinio’ i’w gael mewn sawl ardal lle mae pobl yn dod at ei gilydd i rannu pryd o fwyd, i gymdeithasu ac i wrando ar siaradwr gwadd.
Gwelwn fod bwyd yn rhan o’r dathliadau a’r arferion yma i gyd a llawer mwy wrth gwrs. A fyddai’n bosib eu dathlu heb y defnydd o fwyd a bwyta neu a ydi hynny yn angenrheidiol i roi ystyr a gwerth i’r dathliadau gwahanol?