Digwyddiadau

14 - 19 Mehefin |
Pererindod yr Hajj (Islam) – Pererindod i Makkah. Dyma 5ed piler Islam. Mae’n rhaid i bob Mwslim wneud y Hajj unwaith yn eu bywyd os ydynt yn medru ei fforddio a bod eu hiechyd yn caniatáu hyn. |
16 Mehefin |
Merthyrdod Guru Arjan (1606) (Sikhiaeth) - Guru Arjan oedd y bumed o’r Deg Guru. Cafodd ei arteithio a’i ladd am amddiffyn egwyddorion ei ffydd. |
16 Mehefin |
Sul y Tadau |
16 - 20 Mehefin |
Eid-al-Adha (Islam) - Un o’r ddwy brif ŵyl Islam. Mae’n nodi diwedd yr Hajj (pererindod i Makkah), ac yn cofio parodrwydd Ibrahim i aberthu ei fab Ismail. Mae Mwslimiaid dros y byd yn aberthu anifail ac yn rhannu’r cig gyda’u teulu a’u cyfeillion, a hefyd gyda phobl dlawd. |
17 - 23 Mehefin |
Wythnos Ffoaduriaid - digwyddiad blynyddol sy'n dathlu cyfraniad ffoaduriaid i'r DU ac sy’n annog pobl i gymryd golwg mwy cadarnhaol ar loches. |
21 Mehefin |
Hirddydd mis Mehefin – Hirddydd mis Mehefin yw'r Heuldro'r Haf yn Hemisffer y Gogledd a'r Heuldro'r Gaeaf yn Hemisffer y De. Mae’r dydd hwn yn cael ei ddathlu i hyrwyddo gwerthoedd positif Dyneiddiaeth. |
21 Mehefin |
Diwrnod Dyneiddwyr y Byd – Mae’r dydd hwn yn cael ei ddathlu i hyrwyddo gwerthoedd positif Dyneiddiaeth. |
22 Mehefin |
Diwrnod Windrush – Ar 22 Mehefin, 1948 glaniodd HMT Empire Windrush yn nociau Tilbury, gan gludo'r mewnfudwyr cyntaf o'r Caribî. Defnyddiwyd enw'r llong ar y cyfnod o ymfudo mawr o'r Caribî - Cenhedlaeth Windrush. |
2 - 7 Gorffennaf |
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen - un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf blaenllaw Cymru - gŵyl wirioneddol ryngwladol o gerddoriaeth, dawns a chân. |
6 Gorffennaf |
Pen-blwydd y Dalai Lama (Bwdhaeth) |
7 Gorffennaf |
RATHA YATRA (Hindŵaeth) – Gŵyl y Cerbydau. Mae Ratha Yatra yn cael ei ddathlu ledled y byd, ond mae'r dathliadau mwyaf enwog a mwyaf yn digwydd yn Puri, India. Cynhelir y dathliadau yn y Deml Jagannath yn Puri. Bydd gŵyl yn cael ei gynnal ar y 10fed Awst yng Nghaerdydd i ddathlu. |
21 Gorffennaf |
Asalha Puja (Bwdhaeth) - Gŵyl i gofio pregeth gyntaf y Bwdha, lle dysgodd am y Ffordd Ganol, y Pedwar Gwirionedd Nobl a’r Llwybr Wythblyg. |
23 Gorffennaf |
Pen-blwydd Haile Selassie (Rastaffariaid) - Un o ddyddiadau mwyaf sanctaidd y Rastaffariaid. Mae’n cael ei ddathlu gyda drymiau Nyahbinghi, emynau a gweddïau. |
3 - 10 Awst |
Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
6 Awst |
Diwrnod Cofio Bomio Hiroshima |
9 Awst |
Diwrnod Cofio Bomio Nagasaki |
12 - 13 Awst |
Tisha B'Av (Iddewiaeth) - diwrnod trist i lawer o bobl Iddewig yn y Deyrnas Unedig. Mae'n eu hatgoffa o'r gormes a thrais a ddioddefwyd ymhlith pobl Iddewig drwy gydol hanes. |
26 Awst |
Krishna Janmashtami (Hindŵaeth) - Gŵyl i ddathlu pen-blwydd y duw Krishna. |
7 Medi |
Ganesh Chaturthi / Vinayaka Chaturthi (Hindŵaeth) – gŵyl Hindŵaidd er anrhydedd i Ganesh / Ganesha, (a elwir hefyd yn Ganapati a Vinayaka). |
21 Medi |
Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig |
