Cymunedau Ffydd yn eco gôl-geidwaid? | ||
![]() |
Dw i’n cofio chwarae gêm o bêl-droed flynyddoedd lawer yn ôl yn yr ysgol gynradd. Ar ôl dewis timau, doedd neb am fod yn y gôl! Felly beth wnaeth yr athro oedd trefnu bod pawb yn ei dro yn amddiffyn y gôl a chadw’r bêl rhag croesi’r llinell i’r rhwyd. Heddiw mae angen amddiffyn nid gôl, ond dyfodol y ddaear, oherwydd rydyn ni’n wynebu canlyniadau cam-drin ein planed a chamddefnyddio ei hadnoddau. Rhaid bod yn fwy gwyrdd; rhaid amddiffyn anifeiliaid prin; rhaid ail-gylchu adnoddau; rhaid cwtogi ar yr allyriadau sy’n arwain at gynhesu byd-eang……a mwy. Hawdd dweud hyn, ond tybed beth mae’r gwahanol gymunedau ffydd yn ei wneud i ‘amddiffyn y gôl’! |
![]() |
Nod Cymorth Cristnogol yw rhoi diwedd ar dlodi yn y byd. I wneud hyn rhaid delio gyda’r newid yn yr hinsawdd – achos mae pobl tlota’r byd yn dioddef yn ei sgil. Maen nhw’n byw mewn ardaloedd sy’n dueddol o ddioddef sychdwr, stormydd a llifogydd, a does ganddyn nhw mo’r modd i’w hamddiffyn eu hunain. Mae llawer o gymunedau tlawd yn dibynnu ar y tywydd am eu bod yn ennill eu bywoliaeth trwy ffermio, felly pan fydd yr hinsawdd yn newid, nhw fydd y cyntaf i ddioddef.
Gallwch weld sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar fywydau Champra a Fatimata o fewn yr adran Gwrando a Gwylio. |
![]() |
Neu (Hinsawdd Hurt.pdf) Rhan arall o waith Cymorth Cristnogol ydy ymgyrch. |
![]() |
Un o’r pethau sy’n cyfrannu fwyaf at newid hinsawdd ydy alldynnu a llosgi tanwydd ffosil. Llosgi nwy a glo sy’n cynhyrchu'r mwyafrif llethol o’r ynni a ddefnyddiwn. Dibynnu ar danwydd ffosil fel hyn sydd yn bennaf wedi codi tymheredd craidd y ddaear. |
![]() |
Mae Cymorth Cristnogol am roi pwysau ar Lywodraeth y DG ac ar gwmnïau byd-eang i leihau’r defnydd o danwydd ffosil a symud at fod yn fwy dibynnol ar ynni cynaliadwy. |
![]() |
Ac mae nhw’n gofyn i’w cefnogwyr fod yn rhan o ymgyrch y CAM MAWR.
I ddarllen mwy am yr ymgyrch cliciwch ar : www.christianaid.org.uk |
![]() |
Ydyn ni’n gwneud rhywbeth dros yr amgylchfyd wrth weddïo? |
![]() |
Wyt ti wedi clywed am y term jihad? |
![]() |
Mae'r Glymblaid ar yr Amgylchedd a Bywyd Iddewig (The Coalition on the Environment and Jewish Life) wedi herio Iddewon i ddefnyddio wyth diwrnod gŵyl Hanukkah i weithredu fel unigolion, fel cymunedau ac yn wleidyddol er mwyn amddiffyn y ddaear yn wyneb newid hinsawdd. Grŵp ydynt sydd wedi ymrwymo i stiwardiaeth ac amddiffyn y Ddaear trwy allgymorth, actifeddiaeth a dysgeidiaeth Iddewig. Maen nhw’n gofyn i bawb, wedi goleuo’r menorah bob noson, i ystyried yr hyn allen nhw ei wneud. Cliciwch ar y linc hon i weld beth sy’n cael ei awgrymu. http://www.coejl.org/resources/hanukkah-8-days-of-action/ |
![]() |
Nofio yn y Môr Marw a wnaeth rhai Iddewon oedd am brotestio am sefyllfa fregus y llyn enwog hwn. Plymiodd nofwyr o sawl rhan o’r byd blymio i’r dŵr hallt a cheisio nofio ar draws y Môr (taith 7 awr). Dyma fan isaf y byd (423 medr o dan lefel y môr). Mae maint y llyn wedi lleihau yn fawr iawn dros y degawdau diwethaf oherwydd bod dŵr yr afon Iorddonen, sy’n bwydo’r llyn, yn cael ei arallgyfeirio er mwyn dyfrhau tir, ac oherwydd y pyllau anweddu sy’n cael eu defnyddio i gasglu mwynau gwerthfawr o’r dŵr. Rhaid amddiffyn y Môr – dyna gri’r protestwyr.
|
![]() |
Wyt ti’n cofio’r gêm bêl-droed yna?
|
![]() |
|