
Yr Amgylchedd
Diolch i'r BBC am y podlediad.
Mae John Roberts (rhaglen Bwrw Golwg y BBC) yn cyflwyno safbwyntiau o fewn y thema ‘Yr Amgylchedd’.
Yn y podlediad yma bydd trafodaeth ar gytundeb newid hinsawdd (Paris, yn 2015) lle cytunodd 195 o wledydd y byd ar eu bwriadau i ddelio efo newid hinsawdd.
Cawn Iolo Ap Dafydd yn holi Haf Elgar (Cyfeillion y Ddaear) ar y cytundeb - a hefyd Hefin Jones (o’r adran bio Wyddorau Prifysgol Caerdydd) yn ein gadael efo’r cwestiwn ‘I ba raddau mae llywodraethau yn cyflawni addewidion Paris ddwy flynedd yn ôl?’
Clip 1 - ‘Mae Champa, disgybl ysgol ym Mangladesh, yn sôn am sut mae newid yn yr hinsawdd wedi effeithio ar ei bywyd’ | Clip 2 - ‘Cymru o blaid Africa - Edrychwch beth mae cymuned leol yn Uganda yn ei wneud mewn ymateb i newid hinsawdd’. |
---|---|
Cymru o blaid Africa, trwy garedigrwydd Telesgop (rhaglen Her yr Hinsawdd).
|