|
Trosedd yw gweithred anghywir y gellir cosbi rhywun amdano yn ôl y gyfraith. Mae dulliau o ddelio â throseddwyr wedi amrywio o oes i oes ac hyd heddiw nid oes cytundeb llawn ar sut i ddelio â throseddwyr. Fel arfer rhoddir cosb o ryw fath. Yn draddodiadol y man cychwyn yn y byd gorllewinol oedd geiriau’r Hen Destament- ‘Llygad am lygad, dant am ddant’.
|
![]() |
|
Byddai Cristnogion yn troi at y Testament Newydd am arweiniad. Mae’n dysgu y bydd pobl yn cael maddeuant Duw. Felly dylai credinwyr ymddwyn mewn ffordd debyg gan faddau i eraill – dyma’r ddelfryd beth bynnag. O edrych ar droseddwyr heddiw mae llawer yn rhoi sylw i eiriau Iesu, fel y canlynol – ‘‘Câr dy gymydog fel ti dy hun’ Nid oes gorchymyn mwy na hyn’’(Marc12:31), gan ddadlau mai dangos cariad at eraill yw dyletswydd cyntaf y Cristion.
|
![]() |
O ganlyniad i hyn mae rhai Cristnogion wedi cael eu hysbrydoli i gynnig gwasanaeth cefnogi ar gyfer cyn-garcharorion. Maent hefyd wedi cynnig cymorth i garcharorion a’u teuluoedd. Mae hyn wedi cynnwys trefnu bws ymweliadau i’r carchar. Un enghraifft o hyn yw Eglwys Bresbyteraidd Noddfa yng Nghaernarfon.
|
|
“Os bydd unrhyw un yn lladd rhywun - oni bai ei fod yn cael ei lofruddio am lofruddiaeth neu ledaenu drygioni drwy’r tir - bydd fel pe bai'n lladd pob dyn, tra os yn arbed bywyd, bydd fel pe bai yn achub bywydau pob dyn." |
Mewn Islam mae maddau a chymodi’n bwysig ond rhaid amddiffyn cymdeithas rhag troseddwyr. Mae cosb yn dderbyniol fel elfen o gyfiawnder – atal pobl rhag troseddu pellach a’u harwain ar y llwybr cywir.
Mae Mwslimiaid o’r farn fod pobl sydd yn troseddu yn mynd yn erbyn y Qur'an gan haeddu cosb yn ôl y gyfraith a chosb Allah ar Ddydd y Farn. Mae Islam yn gweithredu cyfraith Shari’ah mewn modd cyfiawn a chyhoeddus. Yn ôl y Qur'an ‘Safwch yn gadarn dros gyfiawnder, fel tystion i Dduw, hyd yn oed yn eich achos eich hun, eich rhieni, eich teulu; y cyfoethog neu’r tlawd’ (Qur'an 4:135) Rhaid gweld tegwch yn cael ei weithredu a hynny mewn ffordd gyfiawn gyda chyfle ar gyfer adferiad. Mae llawer o Fwslimiaid yn poeni am les carcharorion gan ymgyrchu dros wella carchardai, ymweld â charcharorion gan sicrhau cyfleoedd ar eu cyfer wrth adael y carchar. Y mae’r Qur'an er hynny yn cynnwys cosbau llym yng ngolwg gwledydd y Gorllewin. Un enghraifft ydyw torri llaw i ffwrdd am ddwyn difrifol, cosb na fyddai yn cael ei chaniatau yng Nghymru. |
Y gosb eithaf
Y wladwriaeth yn unig sydd â’r hawl i wneud hyn yn dilyn achos llys teg. Mae’r gosb eithaf yn dal i fodoli mewn dros 50 o wledydd (er nad yw bob un o’r gwledydd yn ei weithredu). Ni fu dienyddio yng ngwledydd Prydain ers 1964 a bellach y mae wedi cael ei ddileu er ei fod yn parhau yn bwnc trafod.
|
![]() |
![]() |
Dadleuon dros y gosb eithafMae’n atal pobl rhag llofruddio ac yn diogelu cymdeithas rhag terfysgwyr a llofruddwyr cyson. Mae’n adlewyrchu rhai o osodiadau’r Hen Destament ac yn arbed llawer o arian i’r wlad! Mae’n cau’r achos i’r teulu ac yn eu help i symud ymlaen. |
Dadleuon yn erbynYn anffodus mae pobl diniwed wedi eu cosbi ar gam ac ni ellir cywiro’r sefyllfa. Mae pob bywyd yn sanctaidd ac nid yw lladd yn enw’r wlad yn dderbyniol. Dylai’r perygl o garchar am oes fod yn ddigon i atal llofrudd. Ambell dro gwelir terfysgwr fel merthyr o gael ei ddienyddio. |
![]() |
Cristnogion a’r gosb eithaf
Byddai rhai Cristnogion yn troi at yr Hen Destament gan dynnu sylw at eiriau cyfraith Moses ar yr hawl i ddial – ‘os bydd niwed pellach, yr wyt i hawlio bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant’ (Exodus 21:23-24). Byddai rhai Cristnogion yn cytuno ag amryw o’r dadleuon uchod dros y gosb eithaf.
| |
![]() |
|
“Pam yr ydym yn lladd pobl sydd yn lladd pobl i dangos fod lladd pobl yn anghyfiawn?” |
Islam a’r gosb eithaf
Yr enw ar y drefn gyfreithiol Islamaidd yw Cyfraith Shari’ah. Mae wedi ei sylfaeni ar gyfiawnder mewn modd sy’n sicrhau fod pob person yn cael chwarae teg. Mae Islam yn gweld y gosb eithaf fel un y gellir ei chyfiawnhau ar gyfer rhai troseddau difrifol. Mae cyfraith Shari’ah yn caniatau’r gosb eithaf am y canlynol:
|