Canolfan Bwdhaidd ger Cricieth. |
Petai chi’n chwilio am loches – lle i fynd am lonydd efallai neu amser i feddwl- lle fyddech chi’n ei ddewis? Un o’r canlynol efallai?
Ers rhai blynyddoedd yng Ngogledd Cymru mae dewis ychydig yn annisgwyl. Canolfan o’r enw Lloches y Galon Effro (The Hermitage of the Awakened Heart ). Y mae wedi ei leoli yn ardal Ynys ger Cricieth, rhyw 10 milltir o Borthmadog. Yn ôl y wefan https://buddhisthermitage.wales ‘mae’r Lloches, o le y gallwch weld mynyddoedd Eryri, yn echel gweithgareddau Sangha’r Galon Effro ac yn gartref i Lama Shenpen Hookman, ymhle mae hi’n treulio rhan fwyaf o’i hamser yn encilio neu yn gweithio efo ei myfyrwyr sydd yn dilyn cwrs astudio cartref ar fyfyrio a Bwdhaeth’. |
![]() |
Pam dod i ardal Cricieth? Cafodd Lloches y Galon Effro ei sefydlu yn Ynys Graianog yn 2003. Bu Lama Shenpen Hookham (ystyr lama yw athro Bwdhaidd) yn ymddiddori yng nghrefydd Bwdhaeth ers ei bod yn ei 20au gan ddilyn athrawon Bwdhaidd niferus yn India a Tibet. Bellach mae’n arbenigwraig yn y maes ac wedi cyhoeddi llawer o lyfrau. Y mae’n dweud iddi gael ei harwain gan lama o Tibet i ddewis lle i’r gorllewin o Lundain a gydag amser dan arweiniad pellach, gogledd Cymru ac yna ardal Cricieth.
|
![]() |
Beth sy’n digwydd yn Lloches y Galon Effro?
Prif waith y Sangha (Cymuned) yw rhoi arweiniad i fyfyrwyr. Mae’n bosibl gwneud hynny o bell, yn arbennig dros y we. Mae llawer o ddeunydd gan Lama Shenpen ar YouTube. Y mae hefyd wedi ysgrifennu llawer o lyfrau fel arweiniad. Ar y llaw arall mae’r prif bwyslais ar roi arweiniad personol. Mae pobl yn dod i aros ac yn treulio amser yn derbyn arweiniad unigol ac mewn grwpiau. Mae’n bosibl i bobl ddod yno fel unigolion neu fel grŵp. Gall hyd at 25 o bobl fynychu’r cyrsiau sydd ar gael. Nid oes cost benodol ond mae pawb yn rhydd i gyfrannu’n ariannol i gynnal y gwaith.
|
![]() |
Mae’r hyfforddiant a gynigir yn y Sangha yn fanwl ac yn cynnwys hyfforddiant mewn myfyrdod a mewnwelediad Bwdhaidd gan gynnwys y canlynol:
Mae yna groeso i bawb sy’n dymuno archwilio i mewn i nodweddion Bwdhaeth gan ymuno yn y gweithgareddau, defodau a dathliadau. I rai mae’r grefydd yn gwbl newydd tra bod eraill yn fwy profiadol. Mae cynnwys y cyrsiau yn cael eu haddasu yn ôl yr angen. Mae myfyrdod yn amlwg yn rhan bwysig o’r cyrsiau. Gwelir myfyrio fel ffordd i’r unigolyn ddeall ei hun yn well. Mae’n ymwneud â delio gydag anawsterau bywyd fel amheuon, pwysau a dryswch gan anelu at obaith a theimladau cadarnhaol. Yn ôl Lama Shenpen ‘Y nod yw darparu pawb - yn ifanc neu’n hen, Bwdhydd neu’r sawl nad ydy’n Fwdhydd - gyda ffordd gywir ac uniongyrchol o gysylltu gyda’u calon effro’. Y gobaith o wneud hyn yw galluogi pobl i fyw bywyd llawn a chyflawn mewn modd sydd o les i bawb o’u cwmpas. |
![]() |
Ymateb i Lloches y Galon Effro.
Y mae ymateb pobl yn dilyn ymweliad â’r ganolfan ger Cricieth yn gadarnhaol iawn. Dyma ambell sylw:
|
