Thema Rhifyn 6 : Addoli a Lleoedd Addoli
Mehefin 2018

Mae pobl wedi adnabod rhai lleoliadau fel mannau sanctaidd ers miloedd o ganrifoedd ac wedi adeiladu cromlechi, cylchoedd cerrig a meini hirion i nodi’r lleoedd arbennig. Ar y safloedd hyn roeddynt yn teimlo’n agos i’w duw neu eu duwiau. Yn ddiweddarach, dechreuoedd Cristnogion godi adeiladau arbennig er mwyn clodfori Duw, e.e. celloedd, eglwysi, capeli, cadeirlannau, a chreu canolbwynt i gredinwyr i allu addoli, ymuno mewn dathliadau a theimlo’n rhan o’r gymuned.
Erbyn hyn mae nifer o eglwysi a chapeli Cristnogol yng Nghymru yn wag ac yn cael eu defnyddio at bwrpasau eraill, e.e. garej, siop carpedi, cartref, tafarn. Mae eraill yn cael eu defnyddio gan grefyddau eraill. Defnyddir capel yng Nghyffordd Llandudno fel mosg a throdd synagog yn Abertawe yn gapel. Ond yn y gymdeithas fodern a’i dinasoedd 24awr, mae’r angen i gael llecynnau tawel ar gyfer addoli yn parhau ac yn aml gwelir capeli mewn ysbytai, meysydd awyr neu canolfannau siopa, tra bod eraill yn chwilio am Dduw yn yr awyr agored.