Eglwys mewn Coedwig?
|
Pa ddarlun sy’n dod i’ch meddwl chi wrth glywed am ‘le arbennig i addoli’, neu ‘lle i agosáu at Dduw’?
|
![]() |
Ydy’r llun yma yn dangos lle arbennig i addoli?
|
Datblygiad diweddar yng Nghymru yw’r hyn sy’n cael ei adnabod fel Eglwys mewn Coedwig (Forest Church) lle mae pobl yn chwilio am gyfle i gysylltu gyda Duw, nid wrth eistedd mewn adeilad arbennig a dilyn trefn addoliad, ond wrth eistedd neu gerdded yng nghanol byd natur.
O ARGLWYDD, ein brenin,
|
![]() |
Ac yn y Testament Newydd mae Paul yn dweud yn ei lythyr at Gristnogion Rhufain,
Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi eu creu yn dangos yn glir mai fe ydy’r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw.
(Pennod 1 adnod 20)
|
![]() |
ac mae Hindŵiaid yn mynd ar bererindod at wahanol afonydd a mynyddoedd sanctaidd.
|
WAW! |
![]() |
Blynyddoedd yn ôl, rwy’n cofio darllen hanes bachgen yn ei arddegau oedd yn mynd i’r oedfa mewn capel ar fore Sul, ac yna i Glwb Ieuenctid y capel gyda’r nos. Roedd y bore ychydig yn boring, ond roedd yn mwynhau’r clwb. Un noson aeth y Clwb Ieuenctid i wylio’r haul yn machlud wrth ymyl llyn cyfagos. Wrth weld lliwiau aur yr haul yn machlud gydag aelodau eraill y clwb, dyma’r bachgen ifanc yn dweud, “Waw! Mae byd Duw yn ffantastig.” A dyma un o’i ffrindiau yn dweud wrtho, “mae’n siŵr fod Duw wrth ei fodd yn dy glywed di’n dweud, ‘Waw!’ fel yna”. Roedd y bachgen wedi teimlo rhywbeth newydd am Dduw wrth weld un o ryfeddodau natur.
|
![]() |
Eglwys Mewn Coedwig yng Nghymru
Mae yna Eglwys mewn Coedwig yn cyfarfod yng nghanolbarth Cymru, ac un o’r arweinyddion yw dyn o’r enw Bruce Stanley. Mae wedi ysgrifennu llyfr o’r enw Forest Church: A Field Guide to Nature Connection for Groups and Individuals.
O fynd ar wefan y grŵp yma www.mysticchrist.co.uk/forest_church fe welwch eu bod yn cyfarfod ar y trydydd Sul o’r mis o fewn ardal weddol eang, o’r Bermo i lawr i Lanfair ym Muallt.
|
Dro arall byddant yn cynnal gweithgarwch - plannu coed, neu gynnal gweithdy ar ryw agwedd o gadwraeth neu feddyginiaethau naturiol.
|
![]() |
Bydd eraill yn mynd ar daith weddi. Roedd mynachod ers talwm yn cerdded y wlad yn rhannu’r neges Gristnogol gydag eraill, yn adrodd salmau, yn gweddïo. Mae mynychwyr Eglwysi mewn Coedwig hefyd yn mwynhau’r un profiad, ac yn teimlo bod dylanwad byd natur ar eu hemosiynau a’u hysbryd yn llesol iawn wrth iddyn nhw gerdded. Fel dywed Bruce Stanley “I lawer, mae’n haws dilyn siwrne ysbrydol wrth gerdded ar hyd traeth, neu drwy goedwig, neu wrth ddringo mynydd. Mae Eglwys mewn Coedwig Canolbarth Cymru yn fath newydd, arbrofol o grŵp sy’n agored i unrhyw un sydd am archwilio’r siwrne honno. Mae llawer o bobl yn gallu disgrifio munudau cwbl arbennig maent wedi eu profi trwy natur, munudau pan maen nhw’n teimlo cysylltiad gyda rhywbeth mwy na nhw eu hunain, ac mae Eglwys mewn Coedwig yn ffordd o archwilio’r cysylltiad hwnnw yng nghwmni eraill, ac yn ffordd newydd o fod yn Eglwys.” |