Sut mae rhai Cristnogion yn ymateb i ddioddefaint? |
Am be ydych chi’n meddwl wrth glywed y gair dioddefaint? ![]() Pigyn clust? ![]() Rhyfel? ![]() Newyn? ![]() Bwlio? Mae pawb yn wynebu rhywfaint o ddioddefaint yn ystod eu bywyd, waeth beth yw’r dioddefaint hwnnw. Mae cyfeiriadau niferus at ddioddefaint yn y Beibl: ![]() • Roedd y byd a greodd Duw yn rhydd o boen ar y dechrau, ond pan ddechreuodd pobl wrthod gwrando ar Dduw (Genesis 3), daeth dioddefaint ar ffurf poen, marwolaeth, gwrthdaro Un sydd wedi dioddef yn fawr yn ystod ei fywyd ydy’r actor Wynford Ellis Owen, aka Syr Wynff ap Concord, cynhyrchydd a sgriptiwr rhaglenni a dramâu. ![]() © Hawlfraint BBC Cymru Fyw |
Beth achosodd y dioddefaint i Wynford?
Bu bron i Wynford golli popeth oherwydd ei fod yn alcoholig. Mae ei hunangofiant Raslas Bach a Mawr yn disgrifio’r dioddefaint, ac fel y newidiodd ei fywyd gyda help Duw. ![]() Er iddo gael cartref da, doedd Wynford ddim yn hapus fel plentyn. Yn fab i weinidog, roedd disgwyl iddo ymddwyn fel mab i weinidog! Dim camfihafio, dim rhegi, llwyddo yn yr ysgol ayyb a’r frawddeg “Tydi mab i weinidog ddim i fod i….” fel tiwn gron. Dechreuodd deimlo fel petai draig y tu mewn iddo yn dweud “Ti’n dda i ddim, mae rhywbeth yn bod arnat ti”, a gwneud iddo deimlo cywilydd ac euogrwydd. Roedd e hefyd yn dioddef o ddyslecsia, ac yn cael ei fwlio.
|
• Poenau corfforol: yn ei stumog, ei afu. Byddai’n cyfogi ac yn baglu ac anafu ei hun. Bron iddo ladd ei hun wrth gysgu gyda thân nwy ymlaen ac anadlu carbon deuocsid. Dechreuodd atal-ddweud a methu ynganu geiriau. Ceisiodd ladd ei hun sawl gwaith.
![]() Ond wrth i’r yfed waethygu, dechreuodd y gwaith arafu, ac yn y diwedd, daeth i stop. • Dyledion ariannol • Cydweithwyr a ffrindiau yn sibrwd a chwerthin am ei ben. • Problemau yn ei briodas a’i fywyd teuluol. Nid Wynford yn unig wnaeth ddioddef, ond ei wraig a’i ddwy ferch hefyd. Fe wnaeth e ddwyn cyfle’r merched i dyfu mewn awyrgylch diogel, ac i gael tad cyfrifol yn gofalu amdanynt. Roedd eu tad yn caru alcohol yn fwy na nhw. |
Ond roedd Wynford yn dal i wadu bod unrhyw beth o’i le.
|
