Agwedd y Dyneiddwyr tuag at fywyd ar ôl marwolaeth
Y cwestiwn cyntaf amlwg yw ‘Beth yw Dyneiddiaeth?’ Byddai’r rhan fwyaf yn ateb y cwestiwn mewn ffordd debyg i hyn – ‘Dyneiddiaeth yw agwedd at fywyd wedi ei sylfaeni ar reswm a’r hyn yr ydym yn ei rannu fel pobl. Mae’n cydnabod fod gwerthoedd i’w gweld yn y natur ddynol ac yn y profiad dynol (ac nid mewn unrhyw fod goruwchnaturiol neu Dduw.’ Nid yw’n bosib disgrifio Dyneiddiaeth fel crefydd felly!
O edrych ar y diffiniad yma nid yw’n syndod bod nifer o feddylwyr a gwyddonwyr mawr y gorffennol wedi cyfri eu hunain yn ddyneiddwyr. Ar safle gwe swyddogol Dyneiddwyr Gwledydd Prydain mae rhestr hir o noddwyr. Mae’r rhain yn cynnwys nifer yn y byd adloniant; Ricky Gervais, Sandi Toksvig, Stephen Fry, Tim Minchin a Simon le Bon; awduron enwog fel Ken Follett, Ian McEwan a Salman Rushdie; yn ogystal ag aelodau seneddol niferus. Yng Nghymru mae Dr Iolo ap Gwynn a Leanne Wood yn noddwyr amlwg.
STEPHEN FRY - (US Embassy London, Public domain, via Wikimedia Commons),
Leanne Wood - (National Assembly for Wales - CC BY 2.0),
Ken Follet - (Blaues Sofa - CC BY 2.0)
Am restr lawn o’r noddwyr ewch i: https://humanists.uk/about/our-people/patrons/
Beth mae dyneiddwyr yn ei gredu am fywyd ar ôl marwolaeth?
Mae dyneiddwyr yn gwrthod cred mewn bod goruwchnaturiol fel Duw. Maent yn cyfrif eu hunain yn agnostig neu anffyddwyr. Nid yw’n syndod felly eu bod yn gwrthod y syniad o fywyd ar ôl marwolaeth. Maent yn canolbwyntio ar y presennol gan ymwneud â lles pobl a hapusrwydd rŵan gan eu bod yn credu mai hwn yw’r unig fywyd. Credant fod angen i bob un wneud y gorau o’i bywyd tra ar y ddaear. Maent yn credu hefyd ei bod yn ddyletswydd ar bawb i wneud y gorau dros eraill fel y gall pawb gael y bywyd gorau posib. Gan fod ganddynt gonsyrn am y bobl a ddaw yn y dyfodol maent yn gweld datrys problemau amgylcheddol fel rôl bwysig ar gyfer y ddynoliaeth.


Logo Dyneiddwyr Cymru & Humanists UK
(© Humanists UK)
Oes gan ddyneiddwyr arferion claddu?
Fel pawb arall, mae dyneiddwyr angen cyfle i alaru ac i ffarwelio ag anwyliaid gan roi teyrnged iddynt. Mae’n bosib cynnal yr angladd mewn mynwent gyhoeddus, amlosgfa neu fan claddu gwyrdd. Mae gan ddyneiddwyr aelodau penodol sy’n medru ymgymryd â’r gwaith o drefnu gyda’r teulu ac arwain. Mae’n bosib i berson wneud dewisiadau ei hun ymlaen llaw. Fel arall, y teulu agosaf sy’n ymgynghori ynglŷn â’r trefniadau. Bydd arferion fel goleuo cannwyll fel atgof o’r person a fu farw ond nid oes elfennau crefyddol amlwg. Mae’r pwyslais ar ddathlu bywyd gan osgoi sôn am y person yn byw ymlaen mewn bywyd arall. Yr hyn sy’n parhau yw atgofion, teulu ac effaith eu gwaith da.

Seremoni angladd dyneiddiol: aelodau o'r teulu a ffrindiau'n cyfarfod i ddathlu bywyd rhywun annwyl sydd wedi marw.
(© HUMANISTLIFE.org.uk)
Nid oes cynllun penodol ac mae pob seremoni yn wahanol. Dyma rai o’r elfennau arferol:
Erbyn hyn mae gan ddyneiddwyr gynrychiolwyr ar draws Cymru ac mae’n bosib trefnu angladd drwyddyn nhw mewn unrhyw ran o Gymru.
Y Goedwig Dragwyddol.
Un safle gladdu unigryw yw’r un ym Moduan ger Pwllheli – Coedwig Dragwyddol Boduan. Cafodd ei sefydlu ugain mlynedd yn ôl ar safle saith acer ac mae’n cynnig dewis arall ar gyfer bobl y Gogledd Orllewin. Yn wir mae’r rhai sydd wedi manteisio ar ddewis amgen yn canmol:
“Rydym mor falch ein bod wedi dewis y Goedwig Dragwyddol fel ein man gorffwys terfynol – mae’n safle mor brydferth … Diolch am bopeth.”
“Diolch o galon am eich caredigrwydd a’ch cydymdeimlad … Rydych wedi creu rhywbeth arbennig ac rwy’n siŵr y daw â heddwch i lawer o bobl am genedlaethau.”

Arwydd Gwarchodfa Boduan Sanctuary Mynwent Goedwigol. (© Memorialise.co.uk)
Mae’r sawl sy’n cael eu claddu yn llythrennol yn mynd yn rhan o’r goedwig ac yn rhan o gylch bywyd y goedwig. Mae hyn yn cael ei weld fel rhywbeth cynaliadwy sydd ddim yn gwneud drwg i’r amgylchfyd mewn unrhyw ffordd - yn wahanol i amlosgi sy’n creu allyriadau carbon. Ethos yr elusen felly yw parch at fywyd gan bwysleisio fod pob ffurf ar fywyd yn gysylltiedig i’w gilydd. Maent yn ceisio helpu galarwyr i wynebu marwolaeth gan dderbyn heddwch a chytgord y goedwig fel eli sy’n lleddfu. Dewis y teulu ydyw cynnwys y seremoni ac ati gan ddilyn llwybr seciwlar neu grefyddol.

Y Goedwig Dragwyddol
Mae’r elusen yn crynhoi ei neges mewn pedwar amcan:
1. Cynnig coedwig fel adnodd i’r cyhoedd;
2. Addysgu am ein coedwigoedd brodorol;
3. Cynnig a chadw safle claddedigaethau gwyrdd;
4. Ymgeledd i alarwyr.
Un a fu’n ymweld â’r safle yw Kate Humble ar gyfer ei rhaglen ‘Off the Beaten Track’ – https://www.bbc.co.uk/programmes/p07l2117
Sut mae dyneiddwyr yn cofio?
Mae dulliau pobl o gofio am aelod o’r teulu neu ffrind yn rhywbeth personol iawn ac i fyny i’r unigolyn. Ar y llaw arall mae dyneiddwyr yn cynnig seremonïau coffa. Dyma gyfle i deulu a ffrindiau ddod ynghyd yn ddiweddarach i gofio mewn rhyw ffordd. Cyfle ydyw hwn i bawb ddod ynghyd ymhen amser. Cyfle i ddathlu bywyd gyda theulu a ffrindiau a hynny mewn unrhyw leoliad - yr ardd, parc, coedwig, traeth neu le bynnag. Mae hwn yn achlysur anffurfiol er mwyn cofio a dathlu. Gall gael ei ddefnyddio fel cyfle i wasgaru llwch y sawl a fu farw os bu amlosgi blaenorol.
I grynhoi, mae’r Dyneiddwyr yn canolbwyntio ar y presennol i fyw bywyd hapus gan mai hwn yw’r unig fywyd a bod angen i bob un wneud y gorau o’u bywyd.