|
Pe bai rhywun yn gofyn i chi lle ydi’r lle mwyaf arbennig yn eich bywyd beth fyddai eich ateb? Mae’n siŵr y byddai’r rhan fwyaf yn nodi heb unrhyw amheuaeth - ‘fy nghartref’. Ond ar wahân i’ch cartref lle arall? Y man lle cawsoch eich geni? Tŷ nain a taid? Rhywle lle cawsoch wyliau arbennig? Ac ar ôl i chi benderfynu ar le mae 'na gwestiwn arall y mae’n rhaid ei ateb - pam bod y lleoedd yma yn arbennig i chi? Mae llawer o bobl yn credu bod ganddynt berthynas arbennig a rhai lleoedd a bod y mannau hynny yn rhan ohonynt, wedi dylanwadu are u cymeriad er efallai eu bod wedi symud oddi yno i fyw ers nifer o flynyddoedd. Mae T.H.Parry Williams a gafodd ei fagu yn Nhŷ’r Ysgol Rhyd-ddu yn sôn am ddylanwad yr ardal honno arno ac mae llawer o’i gerddi yn dangos pa mor arbennig oedd ei fro yn ei olwg. Dyma ei gerdd i Cynefin sy’n cyfeirio at apêl a thynfa arbennig bro ei eni er iddo symud oddi yno i Aberystwyth i fyw. | ||
| ||
CYNEFIN |
Yn fwy diweddar ysgrifennodd Meirion Macintyre Huws gerdd yn son am ei berthynas arbennig a thref Caernarfon o dan y teitl ‘ Yma wyf finna’ i fod’ a chyfansoddodd Geraint Lovgreen gerddoriaeth ar ei chyfer. Mae pob pennill yn gorffen gyda’r geiriau -
Mae llawer o grefyddwyr o bob crefydd yn medru dweud yr un peth am nifer o leoedd sy’n arbennig yn eu crefyddau. Pe baem yn holi crefyddwyr gwahanol ynglŷn â pham bod y lleoedd hyn yn arbennig yna buasem yn cael amrywiaeth o atebion. Un ateb yn sicr gan rai crefyddwyr yw bod y lleoedd hyn yn bwysig oherwydd bod ymweld â hwy yn rhan ddisgwyliedig os nad yn orfodol o fewn eu crefyddau er mwyn cyflawni defodau arbennig yn y lleoedd hynny. |
|
![]() |
|
|
|
![]() | |
|
|
![]() | |
Wrth gwrs mae gan bob crefydd eu hadeiladau addoli ac i grefyddwyr maent yn lleoedd arbennig boed yn Fosg I Fwslim neu’n Synagog I Iddew neu’n Eglwys neu Gapel I Gristion. |
|
![]() | |
|
|